Actau’r Apostolion 11
11
A.D. 41. —
1 Pedr, wedi achwyn arno am fyned i mewn at y Cenhedloedd, yn gwneuthur ei amddiffyn; 18 ac yn cael ei dderbyn. 19 Wedi cyrhaeddyd o’r efengyl hyd Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, mae yn danfon Barnabas i’w cadarnhau hwynt. 26 Y disgyblion yno yn gyntaf i gael eu galw yn Gristonogion; 27 ac anfon ymwared i’r brodyr yn Jwdea, yn amser newyn.
1A’r apostolion a’r brodyr oedd yn Jwdea, a glywsant ddarfod i’r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw. 2A phan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, #Pen 10:45y rhai o’r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef, 3Gan ddywedyd, #Pen 10:28; Gal 2:12Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyda hwynt. 4Eithr Pedr a ddechreuodd, ac a eglurodd y peth iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, 5#Pen 10:9, & cYr oeddwn i yn ninas Jopa yn gweddïo; ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn disgyn, wedi ei gollwng o’r nef erbyn ei phedair congl; a hi a ddaeth hyd ataf fi. 6Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwarcarnolion y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y nef. 7Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Pedr; lladd, a bwyta. 8Ac mi a ddywedais, Nid felly, Arglwydd: canys dim cyffredin neu aflan nid aeth un amser i’m genau. 9Eithr y llais a’m hatebodd i eilwaith o’r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin. 10A hyn a wnaed dair gwaith: a’r holl bethau a dynnwyd i fyny i’r nef drachefn. 11Ac wele, yn y man yr oedd tri wŷr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. 12#Pen 10:19; 15:7A’r Ysbryd a archodd i mi fyned gyda hwynt, heb amau dim. A’r chwe brodyr hyn a ddaethant gyda mi; a nyni a ddaethom i mewn i dŷ y gŵr. 13Ac efe a fynegodd i ni pa fodd y gwelsai efe angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho, Anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, a gyfenwir Pedr: 14Yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai y’th iacheir di a’th holl dŷ. 15Ac a myfi yn dechrau llefaru, syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt, #Pen 2:4megis arnom ninnau yn y dechreuad. 16Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasai efe, #Ioan 1:26; Pen 1:5 19:4Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr; eithr #Esa 44:3; Joel 2:28; 3:18chwi a fedyddir â’r Ysbryd Glân. 17#Pen 15:8Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ag i ninnau, y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw? 18A phan glywsant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Fe roddes Duw, gan hynny i’r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
19 #
Pen 8:1
A’r rhai a wasgarasid oherwydd y blinder a godasai ynghylch Steffan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru’r gair wrth neb ond wrth yr Iddewon yn unig. 20A rhai ohonynt oedd wŷr o Cyprus ac o Cyrene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Iesu. 21#Pen 2:47A llaw yr Arglwydd oedd gyda hwynt: a nifer mawr a gredodd, ac a drodd at yr Arglwydd.
22A’r gair a ddaeth i glustiau yr eglwys oedd yn Jerwsalem am y pethau hyn: a hwy a anfonasant Barnabas i fyned hyd Antiochia. 23Yr hwn pan ddaeth, a gweled gras Duw, a fu lawen ganddo, ac #Pen 13:43; 14:22a gynghorodd bawb oll, trwy lwyrfryd calon, i lynu wrth yr Arglwydd. 24Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac #Pen 6:5yn llawn o’r Ysbryd Glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i’r Arglwydd. 25Yna yr aeth Barnabas i #Pen 9:30Darsus, i geisio Saul. Ac wedi iddo ei gael, efe a’i dug i Antiochia. 26A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull #11:26 Neu, gyda’r eglwys.yn yr eglwys, a dysgu pobl lawer; a bod galw y disgyblion yn Gristonogion yn gyntaf yn Antiochia.
27Ac yn y dyddiau hynny daeth proffwydi o Jerwsalem i waered i Antiochia. 28Ac un ohonynt, a’i enw #Pen 21:10Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar. 29Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a #11:29 luniaethasant.fwriadasant anfon #2 Cor 9:1cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea: 30#Pen 12:25Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr henuriaid trwy law Barnabas a Saul.
اکنون انتخاب شده:
Actau’r Apostolion 11: BWM1955C
هایلایت
کپی
مقایسه
به اشتراک گذاشتن
می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan gyda chroesgyfeiriadau © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible with cross-references © 1955 British and Foreign Bible Society