1 Corinthiaid 4

4
A.D. 59. —
1 Pa gyfrif a ddylid ei wneuthur o weinidogion. 7 Nad oes gennym ni ddim a’r nas derbyniasom. 9 Bod yr apostolion yn ddrychau i’r byd, i’r angylion, ac i ddynion; 13 yn ysgubion ac yn sorod y byd: 15 ac er hynny eu bod yn dadau i ni yng Nghrist, 16 ac y dylem ni eu dilyn hwy.
1Felly cyfrifed dyn nyni, megis #Mat 24:45; 2 Cor 6:4; Col 1:25gweinidogion i Grist, a #Luc 12:42; Titus 1:7; 1 Pedr 4:10goruchwylwyr ar ddirgeledigaethau Duw. 2Am ben hyn, yr ydys yn disgwyl mewn goruchwylwyr, gael un yn ffyddlon. 3Eithr gennyf fi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan #4:3 Gr. ddydd dyn.farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. 4Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; #Salm 130:3; 143:2; Rhuf 4:2ond yn hyn ni’m cyfiawnhawyd: eithr yr Arglwydd yw’r hwn sydd yn fy marnu. 5#Mat 7:1; Rhuf 2:1, 16; Dat 20:12Am hynny na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo’r Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau’r calonnau: ac yna y bydd #2 Cor 10:18y glod i bob un gan Dduw. 6A’r pethau hyn, frodyr, #Pen 1:12; 3:4mewn cyffelybiaeth a fwriais i ataf fy hun ac at Apolos, o’ch achos chwi: fel y gallech ddysgu ynom ni, na synier mwy nag sydd ysgrifenedig, fel na byddoch y naill dros y llall yn ymchwyddo yn erbyn arall. 7Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ac arall? a #Ioan 3:27pha beth sydd gennyt a’r nas derbyniaist? ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu, megis pe bait heb dderbyn? 8Yr ydych chwi yr awron wedi eich diwallu, #Dat 3:17yr ydych chwi yr awron wedi eich cyfoethogi, chwi a deyrnasasoch hebom ni: ac och Dduw na baech yn teyrnasu, fel y caem ninnau deyrnasu gyda chwi. 9Canys tybied yr wyf ddarfod i Dduw ein dangos ni, yr apostolion diwethaf, #Salm 44:22; Rhuf 8:36; 2 Cor 4:11fel rhai wedi eu bwrw i angau: oblegid #Heb 10:33nyni a wnaethpwyd yn #4:9 Gr. theatr.ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion. 10#Pen 2:3 Yr ydym ni #Act 17:18; 26:24yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; #2 Cor 13:9nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus. 11#2 Cor 4:8; 11:23Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac #Act 23:2yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd; 12#Act 18:3; 20:34; 1 Thess 2:9; 2 Thess 3:8Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. #Mat 5:44; Luc 6:28; 23:34; Act 7:60Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef; 13Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: #Galar 3:45fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn. 14Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf #1 Thess 2:11fel fy mhlant annwyl. 15Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys #Act 18:11; Gal 4:19; Philem 10 Iago 1:18myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl. 16Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, #Pen 11:1; 2 Thess 3:9byddwch ddilynwyr i mi. 17Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, #1 Tim 1:2; 2 Tim 1:2yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys. 18Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi. 19#Act 19:21Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, #Act 18:21; Rhuf 15:32os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu. 20Canys #Pen 2:4; 1 Thess 1:5nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu. 21Beth a fynnwch chwi? #2 Cor 10:2; 13:10ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?

اکنون انتخاب شده:

1 Corinthiaid 4: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید