1 Corinthiaid 5

5
A.D. 59. —
1 Bod y gŵr godinebus 6 yn achos o gywilydd iddynt, yn hytrach nag o orfoledd. 7 Rhaid yw ymlanhau oddi wrth yr hen lefain. 10 Y dylid cilio oddi wrth anfad ddrwgweithredwyr.
1Mae’r gair yn hollol, fod yn eich plith chwi odineb, a chyfryw odineb ag na enwir unwaith ymysg y Cenhedloedd; sef #Lef 18:8; Deut 27:20cael o un wraig ei dad. 2Ac yr ydych chwi wedi ymchwyddo, ac ni alarasoch yn hytrach, fel y tynnid o’ch mysg chwi y neb a wnaeth y weithred hon. 3Canys myfi yn ddiau, #Col 2:5fel absennol yn y corff, eto yn bresennol yn yr ysbryd, a fernais eisoes, fel pe bawn bresennol, am yr hwn a wnaeth y peth hwn felly, 4Yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, pan ymgynulloch ynghyd, a’m hysbryd innau, #Mat 16:19; 18:18; Ioan 20:23gyda gallu ein Harglwydd Iesu Grist, 5#1 Tim 1:20Draddodi’r cyfryw un i Satan, i ddinistr y cnawd, fel y byddo’r ysbryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Iesu. 6#Iago 4:16Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod #Gal 5:9ychydig lefain yn lefeinio’r holl does? 7Am hynny certhwch allan yr hen lefain, fel y byddoch does newydd, megis yr ydych ddilefeinllyd. Canys #Esa 53:7; Ioan 1:29Crist ein pasg ni a #5:7 Neu, laddwyd.aberthwyd drosom ni: 8Am hynny #Exod 12:15cadwn #5:8 yr ympryd.ŵyl, #Deut 16:3nid â hen lefain, nac â lefain malais a drygioni; ond â bara croyw purdeb a gwirionedd. 9Mi a ysgrifennais atoch mewn llythyr, #Ad. 2:7; 2 Cor 6:14; Eff 5:11; 2 Thess 3:14na chydymgymysgech â godinebwyr: 10Ac nid yn hollol â godinebwyr y byd hwn, neu â’r cybyddion, neu â’r cribddeilwyr, neu ag eilun‐addolwyr; oblegid felly rhaid fyddai i chwi fyned allan o’r byd. 11Ond yn awr mi a ysgrifennais atoch, na chydymgymysgech, #Mat 18:17; Rhuf 16:17; 2 Thess 3:14; 2 Ioan 10os bydd neb a enwir yn frawd yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn eilun‐addolwr, neu yn ddifenwr, neu yn feddw, neu yn gribddeiliwr; gyda’r cyfryw ddyn na chydfwyta chwaith. 12Canys beth sydd i mi a farnwyf #Marc 4:11; Col 4:5; 1 Thess 4:12; 1 Tim 3:7ar y rhai sydd oddi allan? onid y rhai sydd oddi mewn yr ydych chwi yn eu barnu? 13Eithr y rhai sydd oddi allan, Duw sydd yn eu barnu. #Deut 13:5; 17:7; 22:21, 22, 24Bwriwch chwithau ymaith y dyn drygionus hwnnw o’ch plith chwi.

اکنون انتخاب شده:

1 Corinthiaid 5: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید