1 Corinthiaid 3

3
A.D. 59. —
2 Bod llaeth yn gymwys i blant. 3 Cynnen ac ymbleidio yn arwyddion o feddwl bydol. 7 Nad yw yr hwn sydd yn plannu, na’r hwn sydd yn dyfrhau, ddim. 9 Bod y gweinidogion yn gyd‐weithwyr i Dduw. 11 Crist yw yr unig sylfaen. 16 Bod dynion yn demlau Duw, y rhai 17 sydd raid eu cadw yn sanctaidd. 19 Nad yw doethineb y byd yma ond ffolineb gyda Duw.
1A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist. 2Mi a roddais i chwi #Heb 5:12, 13; 1 Pedr 2:2laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn. 3Canys cnawdol ydych chwi eto: canys #Gal 5:20; Iago 3:16tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn #3:3 Gr. yn ôl dyn.ddynol? 4Canys tra dywedo un, #Pen 1:12Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol? 5Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un? 6Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd. 7Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd. 8Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: #Salm 62:12; Gal 6:5; Dat 2:23a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun. 9Canys #2 Cor 6:1cyd‐weithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, #Eff 2:20; Heb 3:3, 4; 1 Pedr 2:5adeiladaeth Duw, ydych chwi. 10#Rhuf 1:5Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais #Rhuf 15:20; Dat 21:14y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond #1 Pedr 4:11edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu. 11Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r #Esa 28:16; Mat 16:18un a osodwyd, #Eff 2:20yr hwn yw Iesu Grist. 12Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl; 13#Pen 4:5Gwaith pob dyn a #3:13 Gr. amlygwyd.wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid #1 Pedr 1:7; 4:12trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw. 14Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr. 15Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân. 16#Pen 6:19; 2 Cor 6:16; Eff 2:21, 22; Heb 3:6Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch? 17Os #3:17 difetha.llygra neb deml Dduw, Duw a #3:17 ddifetha.lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi. 18#Diar 3; Esa 5:21Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth. 19Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, #Job 5:13Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra. 20A thrachefn, #Salm 94:11Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt. 21Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi: 22Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi; 23A #Pen 11:3; 2 Cor 10:7; Gal 3:29chwithau yn eiddo Crist; a Crist yn eiddo Duw.

اکنون انتخاب شده:

1 Corinthiaid 3: BWM1955C

های‌لایت

کپی

مقایسه

به اشتراک گذاشتن

None

می خواهید نکات برجسته خود را در همه دستگاه های خود ذخیره کنید؟ برای ورودثبت نام کنید یا اگر ثبت نام کرده اید وارد شوید