Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ble daw Gweddi yn RealSampl

Where Prayer Becomes Real

DYDD 5 O 5

Diwrnod Pump

Y mae'r Arglwydd yn Agos

Am y rhan fwyaf o fy mywyd Cristnogol, doeddwn i ddim yn sylweddoli cymaint roeddwn i'n ymgodymu â mi fy hun mewn gweddi. Pan fethais â “gweddïo’n dda” yn ôl fy safonau, fe wnes i droi yn erbyn fy hun i ymdrechu’n galetach, i fod yn well ac i brofi i Dduw fy mod yn ffyddlon. Ond roeddwn i'n ceisio cynhyrchu gweddi ffyddlon yn fy nghnawd, yn hytrach na darganfod gwirionedd yr hyn roedd Duw wedi'i wneud i mi. Yn ddwfn i lawr doeddwn i ddim yn credu bod Duw eisiau'r gwir.

Yn Salm 145:18 clywn y gwrthwyneb: “Mae’r Arglwydd yn agos at y rhai sy’n galw arno; at bawb sy’n ddidwyll pan maen nhw’n galw arno.” Tra bod llawer ohonom yn araf ddysgu y gallwn ddod â Duw i bob strygl, ein pechod a’n llawenydd, gad imi awgrymu bod llawer ohonom yn dal i fethu â dod â Duw i mewn i’n gweddïau. Gweddïwn ar Dduw, yn hytrach na’i adnabod e yng nghanol ein gweddi (neu ein methiant mewn gweddi). Pan grwydrodd fy meddwl mewn gweddi, wnes i ddim erioed ystyried fod Duw gyda mi yn hyn, gan fy ngwahodd i ddod â hyn ato. Pan o’n i’n syrthio i gysgu, byddwn yn ymddiheuro am fethu ag aros yn effro, ond wnes i erioed siarad â Duw am fy mlinder.

Fy mentor a ddwedodd wrtho i gyntaf, nad lle i fod yn dda oedd gweddï, ond lle i fod yn onest. Yno y daeth gweddi yn fyw, oherwydd wnes i ddarganfod fod Duw mewn gwirionedd eisiau cwrdd â mi yn fy chwantau dyfnaf, fy ymrafael a'r tensiwn a deimlais yn fy mherthynas ag e. Ymhell oddi wrth derfynau, gwahoddiadau oedd y rhain i adnabod ei bresenoldeb ac i dderbyn ei drugaredd, yn union lle roedd ei angen arnaf.

Sylweddolais nad oedd llawer o fy ngweddïau yn wir, oherwydd roeddwn yn ceisio gweddïo fel o’n i’n dychmygu y byddai Cristion ffyddlon. Felly daeth fy mywyd gweddi yn fywyd o esgus, gan obeithio pe bawn i'n esgus yn ddigon hir, y byddwn i'n dod yn well arno yn y pen draw. Ond arweiniodd hynny ddim i unman. Yn wir, fe wnaeth fy arwain i roi'r gorau i weddïo. Pan wnes i ddarganfod wahoddiad Duw i adnabod ei gariad, ac i adnabod ei bresenoldeb mewn gwirionedd, wnes i ddarganfod beth oedd yn ei olygu ei fod gyda mi mewn gwirionedd yn y lleoedd hyn. Unwaith eto, nid gwirioneddau i'w cadarnhau yn unig yw'r rhain, ond gwirioneddau i fyw ynddyn nhw.

A oes unrhyw bethau rwyt wedi stryglo â nhw mewn gweddi nad wyt erioed wedi siarad â Duw amdanyn nhw? Pa ddymuniadau a phethau rwyt yn hiraethu amdanyn nhw mae Duw eisiau i ti eu gwahodd i mewn i’w bresenoldeb? Sut olwg fyddai ar rannu'r rhain gyda'r Arglwydd? Elli di gredu go iawn fod Duw gyda thi yn y lleoedd hyn, neu wyt ti'n dal i gadw rhannau o'th galon i ti dy hun?

Diolch am ddarllen drwy'r defosiwn hwn. Yr wyf yn gweddïo dy fod wedi cael dy fendithio gan y geiriau hyn. Os oeddet ti'n hoffi'r cynnwys hwn, hoffwn roi mynediad am ddim i ti i bennod gyntaf fy llyfr. Gelli gael mynediad iddo yn https://www.whereprayerbecomesreal.com/

Am y Cynllun hwn

Where Prayer Becomes Real

Gall gweddi ymddangos yn unig weithiau. Yn aml, mewn gweddi, dw i'n ceisio tawelu fy nghalon a'm henaid, ac mae fy meddwl yn rhedeg i bobman. Weithiau dw i jyst yn syrthio i gysgu. Mae yna adegau pan mae'n teimlo fel fy ngweddïau yn bownsio oddi ar y nenfwd. Yr hyn nad ydym yn sylweddoli’n aml, fodd bynnag, yw bod yr Arglwydd yn cynnig newyddion da inni yn gywir yn y lleoedd hyn. Gad i ni dreulio peth amser yn ystyried y newyddion da am weddi.

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bakerbookhouse.com/products/235866