Ble daw Gweddi yn RealSampl

Diwrnod Un
Clywed Newyddion Da Gweddi
Pan fydda i’n edrych yn ôl ar sut mae gweddi wedi bod yn fy mywyd, mae’n aml wedi troi’n le i berfformio. Yn rhywle ar hyd y ffordd wnes i ddechrau credu mai'r hyn yr oedd Duw eisiau gen i oedd, bod yn dda mewn gweddi. Felly pan dw i’n methu – pan fydd fy meddwl yn crwydro neu pan fyddaf yn cwympo i gysgu – rwy’n teimlo’n euog am beidio â bod yn well, ac yn teimlo ychydig o gywilydd.
Yn ein brwydrau yw’r union le mae angen inni ddarganfod y newyddion da am weddi. Mae Paul yn cyhoeddi hyn yn Rhufeiniaid 8:26: “Ac mae’r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol. Wyddon ni ddim yn iawn beth i’w weddïo, ond mae’r Ysbryd ei hun yn gofyn ar ein rhan ni. Mae yntau’n griddfan – dydy geiriau ddim yn ddigon.” Dydyn ni ddim yn gwybod sut i weddïo fel y dylem. Meddylia am hynny. Pan fydd Duw yn meddwl amdanat ti a’th gallu i weddïo, mae Duw yn cydnabod nad wyt yn gwybod sut i weddïo.
Mae e’n deall.Ond pe baem yn gwneud dim byd mwy, gallai hynny ymddangos braidd yn siomedig. Mae’n galonogol, efallai, fod Duw yn cadarnhau nad ydyn ni’n gwybod sut i weddïo. Dw i'n cael cysur yn y gwirionedd fod Duw yn gwybod ac yn deall. Ond nid yn y camddeall yn unig y mae Duw yn aros. Mae Duw wedi gwneud rhywbeth amdano! Yn Hebreaid 4:14-16, dywedir wrthym fod gennym archoffeiriad mawr yn Iesu sy’n deall ein temtasiynau – sydd wedi ei demtio fel ni ond heb bechu – ac wedi pasio trwy’r nefoedd. Mae ein harchoffeiriad wedi mynd i law dde Duw, “tu ôl i’r llen” fel “angor i’n bywydau ni.” (Heb. 6:19). Dyna pam y mae gennym hyder i “glosio at orsedd Duw” (Heb. 4:16).
Nid yw ein mentrusrwydd wedi ei seilio ar ba mor dda yr ydym am weddïo. Nid yw ein hyder yn gorffwys ar sylfaen ein gallu, ein crebwyll, ein gwybodaeth, na'n daioni. Gallwn agosáu at y Tad oherwydd yr hyn y mae Iesu wedi’i gyflawni ar ein cyfer. Y rheswm pam fod hyn yn newyddion mor dda yw ein bod ni’n gallu dod yn lân ym mhresenoldeb Duw oherwydd nad yw ein daioni, ein doethineb neu ein defosiwn yn cyflawni presenoldeb Duw. “Ond mae Duw yn dangos i ni gymaint mae’n ein caru ni: mae’r Meseia wedi marw droson ni pan oedden ni’n dal i bechu yn ei erbyn!” (Rhuf. 5:8).
Felly pan fyddI di’n gweddïo, ystyria beth rwyt ti'n ei wneud pan fyddi di'n profi pa mor “wael” wyt ti am weddïo. Wyt ti'n mynd yn rhwystredig, yn gwneud addewidion i Dduw am ymdrechu'n galetach neu wella ac yn bnrathu dy dafod, dim ond i fethu eto? Wyt ti'n profi cywilydd mewn gweddi oherwydd na elli orffwys yn y gwirionedd fod Duw yn gwybod nad wyt ti'n gwybod sut i weddïo? Sut gallai dy weddïau newid pe baet ti'n mynd â'th fethiannau at Dduw mewn gweddi, gan geisio'r Duw sy'n gwybod nad wyt ti'n gwybod sut i weddïo ac sydd wedi gofalu am hynny drosot ti?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Gall gweddi ymddangos yn unig weithiau. Yn aml, mewn gweddi, dw i'n ceisio tawelu fy nghalon a'm henaid, ac mae fy meddwl yn rhedeg i bobman. Weithiau dw i jyst yn syrthio i gysgu. Mae yna adegau pan mae'n teimlo fel fy ngweddïau yn bownsio oddi ar y nenfwd. Yr hyn nad ydym yn sylweddoli’n aml, fodd bynnag, yw bod yr Arglwydd yn cynnig newyddion da inni yn gywir yn y lleoedd hyn. Gad i ni dreulio peth amser yn ystyried y newyddion da am weddi.
More