Ble daw Gweddi yn RealSampl

Diwrnod Tri
Gweddïo mewn Ffydd
Hyd yn oed os ydyn ni’n cadarnhau’r holl bethau cywir ynglŷn â gweddi, dŷn ni’n darganfod ein bod ni’n dal i frwydro wrth weddïo. Dŷn ni'n dal i feddwl tybed a yw Duw yno. Dŷn ni'n gweiddi, a dŷn ni'n aml yn cael profiadau mewn gweddi nad ydyn ni'n siŵr sut i'w dehongli. o na fyddai’r Ysgrythyr yn rhoi arweiniad i ni yn y lleoedd hyn. Efallai ei fod yn gwneud hynny.
Yn 1 Ioan 3:19-20, mae Ioan yn bugeilio ein heneidiau i’r union fath yma o frwydr. Yn gyntaf dŷn ni'n darganfod ein bod ni’n “perthyn i’r gwir” a bod angen i ni dawelu ein calonnau yn ei bresenoldeb. Ar unwaith mae hyn braidd yn rhyfedd. Pam mae angen inni dawelu ein hunain ym mhresenoldeb Duw? Pam ydw i'n siarad â mi fy hun ym mhresenoldeb Duw?! Mae’r hyn mae Ioan yn nesaf yn egluro’r broblem: “hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo’n euog a’r gydwybod yn ein condemnio ni. Cofiwch, mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e’n gwybod am bob dim..”
Sylwa bod Ioan yn cymryd y gall ein calonnau ein condemnio ym mhresenoldeb Duw. Rwyf wedi adnabod y math hwn o gondemniad. Rwyf wedi cael trafferth gyda'r profiadau hyn mewn gweddi. Fel y rhan fwyaf ohonom, pan wnes i, gwnes i ddau beth yn awtomatig heb sylwi: Yn gyntaf, cymerais fod fy nheimladau ynghlwm wrth weithred Duw. Pan oeddwn i'n teimlo fy nghondemnio, ro’n i'n meddwl bod Duw yn fy nghondemnio. Yn ail, yn lle dwyn hyn at Dduw, gan drystio mai yng Nghrist yn unig y gallaf wybod gobaith yn y lleoedd hyn, y gwnes i droi yn fy erbyn fy hun. Wnes i gymryd nad o’n i’n gweddïo'n ddigon da, nac yn ddigon caled, neu nad oedd fy mywyd wedi bod yn ddigon da. Anghofiais fod Duw yn gwybod nad ydw i'n gwybod sut i weddïo, a'i fod yn gweddïo ar fy rhan.
Ond yn y lle hwn, sylwa ymhle mae anogaeth Ioan yn byw. Mae Duw yn fwy. Mae Duw yn gwybod y cwbl. Mae Duw yn fwy na’th galon. Mae Ioan yn cymryd bod dy galon yn gwneud llawer o bethau ar ei phen ei hun, ac nid yw'r pethau hynny'n dweud wrthyt am Dduw. Pan fydd dy galon yn dy gondemnio, mae Ioan yn dy atgoffa fod Duw yn fwy na dy galon, ac mae e'n dy droi ato e. Mae Ioan yn dy helpu di i gofio bod Duw yn gwybod popeth - hyd yn oed mwy o dy bechod nag wyt ti - ac mae e'n dy alw di ato'i hun oherwydd yr hyn mae'r hyn mae e wedi ei gyflawni, i ti. Ond dyma pam mae gweddi bob amser trwy ffydd. Mae'n rhaid i ni glywed y gwir, ond yna mae'n rhaid i ni gerdded ynddo hefyd.
Sut wyt ti wedi ymdrechu mewn gweddi? Beth mae dy galon wedi'i ddweud wrthot ti mewn gweddi yr wyt ti wedi tybio mai Duw oedd e? Sut allet ti wybod bod Duw yn fwy yn y lleoedd hyn?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Gall gweddi ymddangos yn unig weithiau. Yn aml, mewn gweddi, dw i'n ceisio tawelu fy nghalon a'm henaid, ac mae fy meddwl yn rhedeg i bobman. Weithiau dw i jyst yn syrthio i gysgu. Mae yna adegau pan mae'n teimlo fel fy ngweddïau yn bownsio oddi ar y nenfwd. Yr hyn nad ydym yn sylweddoli’n aml, fodd bynnag, yw bod yr Arglwydd yn cynnig newyddion da inni yn gywir yn y lleoedd hyn. Gad i ni dreulio peth amser yn ystyried y newyddion da am weddi.
More