Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ble daw Gweddi yn RealSampl

Where Prayer Becomes Real

DYDD 2 O 5

Diwrnod Dau

Mae Duw yn Gwneud Hyd yn oed Mwy Na dŷn ni’n Ddisgwyl

Yr anhawster gyda gweddi yw mai, anaml y mae beth dŷn ni’n gredu yw gweddi, y pethau da dŷn ni’n ddysgu yn yr eglwys, astudio gweddi; a hyd yn oed trwy ein hamser ein hunain mewn gweddi, yn rhoi cysur inni pan dŷn ni’n stryglo. Mae'n hawdd anghofio'r gwir pan ddaw gweddi yn anodd. Dŷn ni'n cadarnhau popeth mae Duw wedi'i wneud i'n hachub, ac eto mewn gweddi dŷn ni'n anghofio'r hyn mae wedi'i wneud, ac yn cymryd ei fod eisiau i ni fod yn dda a thorchi’n llewys. Mae angen mwy na nodiadau atgoffa da yma – mae angen cyfarwyddiadau arnom i fyw yn y gwirionedd.

Dŷn ni eisoes wedi gweld mai rhan o’r newyddion da am weddi yw bod Duw yn cwrdd â ni yn y gwirionedd trwy ein hatgoffa nad ydyn ni’n gwybod sut i weddïo. Gallwn gymryd anadl ddofn ac ochenaid o ryddhad. Mae Duw yn gwybod. Mae Duw yn deall. Gallwn hyd yn oed gadarnhau ei fod wedi rhoi i ni archoffeiriad yn Iesu sy'n dod â ni gerbron y Tad, felly dydyn ni ddim yn sefyll ar ein pennau ein hunain yn ei bresenoldeb, ond dŷn ni’n cael ein gorchuddio a'n cario gan yr un y derbyniwn bresenoldeb Duw trwy ei fywyd, ei farwolaeth a'i atgyfodiad. Ond mae Duw yn mynd ymhellach fyth.

Pan dw i’n stryglo mewn gweddi, dw i’n gweld, er fy mod i’n gwybod y gwirioneddau hyn, er fy mod i’n gallu cadarnhau pob math o bethau da am weddi, mae’n aml yn teimlo fy mod i ar fy mhen fy hun yn gwneud yr holl waith. Mae gweddi yn rhywbeth dw i jyst yn ei wneud. Efallai i ti, mae hynny hyd yn oed yn strygl. Efallai bod gweddi yn debycach i rywbeth y dylet ti ei wneud, ond ddim yn rhywbeth rwyt ti’n mynd ati i wneud. Hyd yn oed yma dw 'n meddwl ein bod ni'n darganfod ein problem. Pan fydd gweddi yn rhywbeth dŷn ni'n meddwl bod angen i ni ei wneud, neu'n weithgaredd dŷn ni'n ei gynhyrchu, dŷn ni'n darganfod yn gyflym nad yw'n rhywbeth dŷn ni'n tueddu i'w wneud. Ond beth pe bawn yn dweud wrthot ti nad dyna beth yw gweddi? Beth pe bawn yn dweud wrthot ti fod gweddi yn rhywbeth rwyt yn mynd i mewn iddo? Rhan o newyddion da gweddi yw dy fod yn cael dy wwahodd i rywbeth sydd eisoes yn digwydd er dy fwyn di, cyn i ti ddweud gair. Hyd yn oed yn ein brwydr i wneud amser i weddïo, mae Duw yn cwrdd â ni yn ein gwendid.

Fel y crybwyllwyd yn y defosiwn ddoe, mae Paul yn dweud wrthym fod yr Ysbryd wedi ei anfon i'n heneidiau. Mae Paul yn cyhoeddi, mai yno y “mae’r Ysbryd yn ein helpu ni hefyd yn ein cyflwr gwan presennol” Mae'r Ysbryd yn eiriol drosot ti o ddyfnderoedd dy galon. Mae'r Ysbryd yn gweld yr holl leoedd rwyt ti'n ei chael hi'n anodd i ofalu. Mae'r Ysbryd yn gwybod dy boen dyfnaf, dy ddrylliad a'th anobaith. Dydy’r Ysbryd ddim yn edrych ar y rhain o bell, ond mae'r Ysbryd wedi disgyn i'r lleoedd hyn, ac yn eu hadnabod yn fwy nag wyt ti. Mae'r Ysbryd yn bresennol i ti yn dy leoedd dyfnaf.

Dwedir rhywbeth tebyg wrthym am y mab. Mae’r Mab “bob amser yn byw i eiriol drosom” ym mhresenoldeb y Tad. Cyn i ni draethu gair mewn gweddi, y mae'r Ysbryd yn griddfan drosom o'n lleoedd dyfnaf, ac y mae'r Mab yn sefyll gerbron y Tad ar ein rhan ac yn gweddïo drosom. Mae ein geiriau ni ein hunain yn cael eu dal yn eu geiriau nhw. Mae ein gweddïau ni ein hunain yn cael eu cario ymlaen gan eu gweddïau. Pan weddïwn, yr ydym yn mynd i mewn i eiriolaeth y Mab a'r Ysbryd ar ein rhan, wrth i'n gweddïau godi at y Tad.

Sut mae eiriolaeth y Mab a’r Ysbryd yn newid y ffordd rwyt ti’n gweddïo? Os yw Duw eisoes wedi gweddïo’r geiriau hynny yr wyt yn eu hofni, os yw’r Tad yn gwybod y cyfan sydd ei angen arnom hyd yn oed cyn inni ofyn (Mathew 6:8), yna pam ydyn ni’n traffwerthu dod â phethau iddo? Sut olwg fyddai arnon ni’n gadael “i Dduw ein rheoli ni” (Rhuf. 6:13), gan drystio yn ei waith, a hyd yn oed trystio bod ei weddïau e’n ddigon?

Am y Cynllun hwn

Where Prayer Becomes Real

Gall gweddi ymddangos yn unig weithiau. Yn aml, mewn gweddi, dw i'n ceisio tawelu fy nghalon a'm henaid, ac mae fy meddwl yn rhedeg i bobman. Weithiau dw i jyst yn syrthio i gysgu. Mae yna adegau pan mae'n teimlo fel fy ngweddïau yn bownsio oddi ar y nenfwd. Yr hyn nad ydym yn sylweddoli’n aml, fodd bynnag, yw bod yr Arglwydd yn cynnig newyddion da inni yn gywir yn y lleoedd hyn. Gad i ni dreulio peth amser yn ystyried y newyddion da am weddi.

More

Hoffem ddiolch i Baker Publishing am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://bakerbookhouse.com/products/235866