Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 8 O 14

Mae’r cwbl wedi’i wneud

Roedd dau o’r dyddiau pwysicaf yn hanes y ddynoliaeth yn ymddangos yn ddigon cyffredin i rai milwyr Rhufeinig. Eu dyletswydd milain oedd dienyddio tri yn Jerwsalem ddiwrnod cyn y Sabath. Fe wnaethon nhw weithredu eu dyletswydd gydag effeithiolrwydd dychrynllyd, gan daro'r hoelion drwy ddwylo a thraed eu dioddefwyr.

Sgrechiodd dau mewn poen a chasineb. Dioddefodd yr un yn y canol mewn distawrwydd gan ofyn i’w Dad am faddeuant i’w boenydwyr. Wrth i Iesu farw sylweddolodd y capten Rhufeinig oedd yn arwain y milwyr yn union pwy oedd yn cael ei groeshoelio o’i flaen. “Roedd capten milwrol Rhufeinig yn sefyll yno wrth y groes. Pan welodd sut buodd Iesu farw, ei eiriau oedd, “Mab Duw oedd y dyn yma, reit siŵr!” (Marc, pennod 15, adnod 39).

Aeth y capten yn ôl i’w barics y diwrnod hwnnw yn cario tri pheth: ei gyfran e o’r dillad roedden nhw wedi’i gymryd oddi ar y dynion ddienyddwyd, yr euogrwydd eu bod, nid yn unig wedi dienyddio dyn di-euog, ond hefyd Mab Duw, a neges yr Efengyl o faddeuant oedd hyd yn oed ar gyfer llofruddwyr fel e.
Mae yna nifer o bethau i ni eu dysgu o’r olygfa anhygoel hon, ond mae dau’n bwysicach na’r gweddill. I ddechrau, mae croeshoeliad Crist yn dangos pa mor ddrwg yw ein pechodau. Yn ail, mae ei groeshoeliad yn dangos fod ei bryniant o faddeuant i bawb wedi bod yn lwyddiannus. Mae’r cwbl wedi’i wneud. Mae hi ar ben ar Satan. Mae Crist wedi dy wneud yn rhydd.

Ysgrythur

Diwrnod 7Diwrnod 9

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

More

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org