Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 14 O 14

Byddi dithau fyw hefyd!
Dŷn ni i gyd yn hoff o gael sicrwydd yn ein bywydau. Dŷn ni i gyd yn hoff o dybio y bydd popeth yn aros yr un fath, yn hawdd i'w drin. Dŷn ni'n ofni newid aflonyddgar - colli ein swydd, dioddef anafiadau mewn damwain car, gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd ryw afiechyd. Yn waeth na hynny - dŷn ni'n ofni gorfod byw mewn cartref gofal, neu cael ein symud i hosbis.
Gwireddwyd hunllef Martha - roedd Iesu'r Iachawr rhy hwyr i arbed bywyd ei brawd, Lasarus, oedd yn symol pan gyrhaeddodd Bethania. “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw. Ond er hynny, dw i'n dal i gredu y bydd Duw yn rhoi i ti beth bynnag rwyt ti'n ei ofyn ganddo.” Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.” (Ioan, pennod 11, adnodau 21-23).
Siarad gwag yw hynny sy'n dod gan un sy'n marw ei hun i un arall. Ond mae'r geiriau hynny'n dod oddiw wrth Iesu, Arglwydd a Meistr pechod, salwch, marwolaeth, ac uffern. Mae ei atgyfodiad e'n rhoi'r pŵer a'r awdurdod i ddad-wneud marwolaeth. Dangosodd y pŵer hwnnw wrth fedd Lasarus pan orchmynnodd y dyn marw i ddod allan a byw. Mae'r dyn marw hwnnw'n enghraifft o beth fydd Iesu'n ei wneud ar ddiwedd amser ar raddfa mawreddog.
Mae atgyfodiad Iesu'n tawelu ein hofnau dyfnaf. Mae atgyfodiad Iesu'n sicrhau maddeuant ein pechodau. Does dim condemniad ar gyfer y rhai hynny sy'n credu'n Iesu. Mae atgyfodiad Iesu'n cadarnhau hyn i ti. Mae e'n byw. Byw fyddi dithau.

Ysgrythur

Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

More

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org