Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

Does dim condemniad
Daeth yr Arglwydd Iesu, Duw tragwyddoldeb i'r ddaear fel dyn am nifer o resymau. Ond y prif reswm oedd i ryddhau y rhai oedd wedi'u dal mewn caethiwed gan eu hofn o farwolaeth, fel mae awdur y llythyr i'r Hebreaid yn ei ddweud yn yr ail bennod.
Fe wnaeth Iesu fyw bywyd eilyddol ar ein rhan, gan ildio i'r holl gyfreithiau Duw a dyn a'u cadw'n berffaith. Cynigodd ei gorff ar gyfer camdriniaeth a dioddef, gan wybod y byddai'r gosb dŷn ni'n ei haeddu'n cael ei hailgyfeirio'n gyfan gwbl arno e. Yn olaf, ildiodd i farwolaeth ei hun, a drwy'r cyfnewid mawr ddigwyddodd ar Galfaria, disgynnodd ein marwolaeth ni arno e a'i ddi-euogrwydd e arnom ni.
A'r canlyniad? "Ond dydy'r rhai sy'n perthyn i'r Meseia Iesu ddim yn mynd i gael eu cosbi! 2 O achos beth wnaeth y Meseia Iesu mae'r Ysbryd Glân, sy'n rhoi bywyd, wedi fy ngollwng i'n rhydd o afael y pechod sy'n arwain i farwolaeth" (Rhufeiniaid, pennod 8, adnodau 1-2).
Mae Duw o ddifri - mae dim condemniad yn golygu dim condemniad. Mi fedri di anadlu nawr.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.
More
Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org