Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

In Our Place: Lenten Devotions

DYDD 11 O 14

Pwy wnaeth e?
Mae yna ddigon o fai i'w rannu am groeshoeliad erchyll Iesu Grist. Roedd yr arweinwyr crefyddol yr Israeliaid wedi cynllwynio ei arestio ganol nos. Bradychwyd e gan Jwdas gyda chusan. Dyfarnwyd e gan y Cyngor Iddewig ar gyhuddiadau ffals. Aberthodd system gyfreithiol y Rhufeiniaid ef i dawelu torf.
Ydy e'n dy synnu di i wybod fod cosbedigaeth Duw tu ôl i'r cyfan? Go iawn! Mae'r proffwyd Eseia'n mynd â ni nôl tu ôl i'r llenni, "Ac eto, yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio, ac achosi iddo ddiodde. Wrth roi ei hun yn offrwm dros bechod," (Eseia, pennod 53, adnod 10). Dŷn ni ymysg y rhai euog ddedfrydodd e i farwolaeth, oherwydd mae ein pechodau ni'n ein gwneud yn gydweithredwyr. Cosbwyd ef gan Dduw y Tad , yn lle ni, a derbyniodd y fflangellu a dyrniad yr hoelion am fod byd o bechod yn cael ei gosbi.
Ond, trwy glwyfau Crist dŷn ni'n cael ein hiachau. Drwy gyfnewidiad ddwyfol anhygoel, rhoddwyd ein euogrwydd ni arno e a'i sancteiddrwydd e arnom ni. Trwy dy ffydd yng Nghrist, mae'r Tad nawr yn edrych arnat ti fel pe na bai ti erioed wedi pechu, fel petai ti mor sanctaidd â'i Fab.

Ysgrythur

Diwrnod 10Diwrnod 12

Am y Cynllun hwn

In Our Place: Lenten Devotions

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.

More

Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org