Yn ein lle: Defosiynau'r Grawys o Time of GraceSampl

Mae hyn o bwysigrwydd mawr
Cafodd pyramidiau gwych yr Aifft eu hadeiladu fel siambrau claddu ar gyfer y pharoaid: cafodd cyrff Djoser, Khufu. a Khafra eu perarogli a'u lapio a'u claddu yna. Fodd bynnag, mae'r siambrau claddu hyn yn wag heddiw. Cafodd Iesu Grist ei ddienyddio fel y troseddwr gwaethaf, ond cafodd ei gladdu fel tywysog mewn bedd newydd naddwyd o'r graig. Mae ei feddrod e'n wag hefyd, ond am reswm gwahanol. Lladron wnaeth ysbeilio beddrodau'r pharoaid. Cerddodd Iesu allan o'i feddrod yn fyw eto.
Fyddet ti'n disgwyl na fyddai rhai nad ydyn nhw'n Gristnogion yn credu stori'r Pasg. Ond falle y bydd yn syndod i ti wybod faint o athrawon Cristnogol sy'n brysur yn lledaenu'r syniad bod atgyfodiad Crist yn cynnwys rhywbeth heblaw adfywiad ei gorff. Mewn gwirionedd, roedd ein Gwaredwr yn wirioneddol farw. Dim pwls. Dim resbiradaeth. Dim tonnau ymennydd. Mewn gwirionedd, mae ein Gwaredwr bellach yn wirioneddol fyw.
Mae hyn o bwysigrwydd mawr. Atgyfodiad corfforol Iesu Grist yw sêl cymeradwyaeth y Tad ar waith gydol bywyd ei Fab. "Ac os wnaeth y Meseia ddim codi, dydy'r newyddion da sy'n cael ei gyhoeddi yn ddim byd ond geiriau gwag – mae beth dych chi'n ei gredu yn gwbl ddiystyr!" (I Corinthiaid, pennod 15, adnod 14). Os yw corff Crist dal yn farw, rwyt ti dal yn dy bechod. Dydy dy euogrwydd heb ei ddileu. Fydd dy gorff fyth yn gadael dy fedd.
Ond, mae Duw wedi 'i atgyfodi. Felly, mae ein gobeithion hefyd. "Dw i'n credu yn atgyfodiad y corff." yw beth dŷn ni'n ei ddweud yng nghredo'r apostolion`. Wyt ti'n credu hynny? Mae'r rhai sy'n credu hyn wedi'u maddau ac yn mynd i fyw am byth.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Bydd y cynllun hwn yn dy arwain drwy gyfnod y Grawys, sy'n ein tywys drwy storïau anhygoel dioddefaint, condemniad, a marwolaeth Iesu Grist yn ein lle.
More
Hoffem ddiolch i Time of Grace Ministry am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.timeofgrace.org