Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nid Fel Hyn mae Pethau i Fod: Sialens 5 niwrnod gan Lysa TerKeurstSampl

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

DYDD 5 O 5

Y Broses Cyn yr Addewid

Mae brwydro drwy ein siomedigaethau dyfnaf yn anodd.

Yn ein munudau mwyaf preifat dŷn ni eisiau gweiddi geiriau dydyn ni ddim yn eu defnyddio o gwmpas ein ffrindiau Beiblaidd am annhegwch y cyfan. Ond yna mae yna adegau mwy gobeithiol… lle dŷn ni eisiau troi’r gerddoriaeth sy’n canmol i fyny, codi gweddïau gonest, a datgan bod Duw yn dda.

Dyna sut beth yw bod mor ddynol—yn brifo ond yn dal i obeithio.

A dyna lle dŷn ni’n dod o hyd i Dafydd yn Salm 40. Yn y deg adnod cyntaf mae Dafydd yn canmol Duw am ei achub, ond yna yn adnodau 11-17 mae’n rhaid iddo weiddi ar Dduw i’w achub eto. Mae Dafydd yn brifo ond yn dal i obeithio.

Dydy gobeithio ddim yn golygu ein bod yn anwybyddu realiti. Na, mae gobeithio yn golygu ein bod yn cydnabod realiti yn yr un anadl ag yr ydym yn cydnabod sofraniaeth Duw.

Ni ellir clymu ein gobaith at amgylchiad neu berson arall yn newid ai peidio. Rhaid i'n gobaith fod yn gysylltiedig ag addewid digyfnewid Duw. Dŷn ni yn gobeithio am y daioni dŷn ni’n gwybod y bydd Duw yn ei ddwyn o'n sefyllfa yn y pen draw, p'un a yw'r daioni yn troi allan i gyd-fynd â'n dymuniadau ai peidio. Ac weithiau mae hynny'n cymryd peth amser. Mae'n fwyaf tebygol y bydd y broses yn gofyn i ni fod yn ddyfalbarhaus. Amyneddgar. Efallai hyd yn oed yn hirymarhous.

Os dw i’n onest, dw i’n gwybod y gall hynny deimlo'n llethol.

Dw i eisiau bendith addawedig Salm 40:4: “Mae'r un sy'n trystio'r ARGLWYDD wedi ei fendithio'n fawr!” Dw i'n anghofio bod y math hwn o drystio yn Nuw yn aml yn cael ei ffurfio yng nghroesglawdd hirymarhous Dydy Duw ddim yn pigo arna i. Mae Duw yn fy newis i fyw un o'i addewidion yn bersonol.

Mae'n anrhydedd fawr. Ond dydy e ddim yn teimlo felly bob amser. Mae'n rhaid i mi gerdded trwy fannau isel y broses cyn i mi fod wedi fy cael y cyfarpar perffaith i fyw'r addewid.

Dŷn ni'n darllen am rai o'r mannau isel hyn yn adnodau 1–3 o Salm 40:

“Ar ôl disgwyl yn frwd i'r ARGLWYDD wneud rhywbet;

dyma fe'n troi ata i;

Cododd fi allan o'r pwll lleidiog,

a'r mwd trwchus.

Rhoddodd fy nhraed ar graig,

a gwneud yn siŵr fy mod i ddim yn baglu.

Roedd gen i gân newydd i'w chanu —

cân o fawl i Dduw.

Bydd llawer o bobl yn gweld beth wnaeth e,

ac yn dod i drystio'r ARGLWYDD!”

Mae'r syniad o aros yn amyneddgar yn adnod 1 yn hynod bwysig yn y Salm hon. Mae'r gair Hebraeg yn dangos bod yr aros yn barhaus ac yn cynnwys ymdeimlad o ddisgwyliad a gobaith awyddus.

Felly, er fy mod i eisiau'r graig gadarn i sefyll arni, yn gyntaf mae'n rhaid i mi aros yn amyneddgar i'r Arglwydd fy nghodi allan o'r mwd a'r llaid a gosod fy nhraed. Y gair "gosod" yn yr Hebraeg wreiddiol yw qum, sy'n golygu codi neu sefyll. Mae'n rhaid i Dduw fy arwain trwy'r broses o gael fy rhyddhau o'r hyn sydd wedi bod yn fy nal yn gaeth cyn y gallaf sefyll.

Dw i hefyd eisiau'r gân newydd honno a addawyd yma. A wnes di sylwi, serch hynny, beth sy'n dod cyn addewid y salm o gân newydd? Dyma'r nifer o gri ar yr Arglwydd am gymorth. Yn aml, y caneuon mawl mwyaf pwerus yw cri poen gwddf a drodd yn alawon hardd.

Ac mae hyn yn wir i ti hefyd.

Dalia ati i weiddi ato, ffrind. Dalia ati i obeithio ynddo. A byddi’n gwybod y bydd Duw yn cymryd pob cri rwyt ti wedi'i lefaru ac yn trefnu'r synau hynny'n gân ogoneddus.

YMATEB: Myfyria ar yr adnodau yn Salm 40 a astudiwyd gennym heddiw. Pa rai sy'n siarad yn uniongyrchol â'th sefyllfa? Sut mae dy bersbectif wedi newid ynglŷn â'r canlyniad rwyt ti ei eisiau?

Am y Cynllun hwn

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

Wyt ti fyth yn cael dy hun yn dweud, "Dydy hyn ddim yn troi allan fel o'n i'n disgwyl"? Pa un ai os yw'n argyfwng mewn perthynas. colli un rwyt yn garu, salwch anesboniadwy, sefyllfa bywyd caled, mae Lysa TerKeurst yn deall ac yn dy wahodd i ymuno â hi ar y cynllun pum diwrnod hwn. Gyda'n gilydd fe wnawn ni ddysgu o ble mae siomedigaeth yn doda sut i ddarganfod y nerth annisgwyl rwyt ei angen i wynebu tor calon, mewn ffordd Feiblaidd.

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thomasnelson.com/p/its-not-supposed-to-be-this-way-book/