Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nid Fel Hyn mae Pethau i Fod: Sialens 5 niwrnod gan Lysa TerKeurstSampl

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

DYDD 3 O 5

Dysgu i Ymladd yn Dda

Ar ôl darlleniad ddoe, falle dy fod yn meddwl..pam fyddai Duw yn creu ein calonnau ym mherffeithrwydd gardd Eden, gan wybod, oherwydd pechod ymhen hir na hwyr, na fyddem yn byw yna?

Unwaith roedd Adda ac Efa wedi pechu, oni fyddai Duw wedi gallu rhwygo'r blys am berffeithrwydd, allan o'u calonnau? Wrth gwrs y gallai fod wedi gwneud hynny. Ond, byddai rhwygo'r rheswm am ein siomedigaeth yn dwyn hefyd ein gobaith godidog o'r man ble bydden ni'n mynd.

,

Cofia, stori o gariad yw hwn. A fyddwn ni ddim yn gwerthfawrogi, na dymuno'r gobaith o'r Gwir Gariad os na fydd cariad llai yn siomi. Mae'r euogrwydd llym, ym mhob dim, yr ochr hyn i dragwyddoldeb, yn creu anfodlonrwydd gyda'r byd hwn ac yn ein gwthio i hiraethu am Dduw ei hun - ac am y fan ble byddwn yn cerdded, yn y diwedd, yn yr ardd gydag ef eto.

Mae'r Beibl yn dechrau gyda Genesis, yng ngardd Eden. Ond mae'n gorffen yn Eden, ym mhenodau olaf datguddiad, y llyfr olaf.

“Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.Croes Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.” Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, 'Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!'."(Datguddiad, pennod 21, adnodau 3 i 5)

Sylwa ar yr holl eiriau teimladwy i ddisgrifio'r byd dŷn ni'n byw ynddo ar hyn o bryd: galaru, wylo, a poen. Mae siomedigaeth llwyr, yn aml, yn cyffwrdd y mannau hynny o ddagrau dwfn. Mae popeth ar yr ochr yma i dragwyddoldeb mewn stad o ddadfeilio. Canlyniad naturiol pechod yw hyn. Mae'r bygythiad di-ddiwedd i'n teimladau yn dod ag iselder, pryder, caledwch, ac i fod yn onest, amheuaeth o ddaioni Duw

Oni fyddwn,,,

...yn gweld nad y diwedd yw'r holl wirioneddau llym hynny, ond yn hytrach, ryw gam gwag yn y canol

Mae duw yn gwybod, cyn y byddwn ni'n byw'n dragwyddol, bydd rhaid i ni ddysgu sut i ymladd yn dda. Wyt ti'n gweld yr anogaeth mae Duw'n ei roi i ni yn y darn yn Datguddiad 21 i'n helpu i wneud hyn, pan mae ein teimladau'n erfyn arnon ni i amau ein ffydd? Bydd e'n stopio'r daith diddiwedd o bydredd a marwolaeth. Bydd e'n gwneud popeth yn newydd!

Yn yr ardd Eden newydd bydd y melltith wedi'i ddileu a bydd perffeithrwydd yn ein cyfarch fel hen ffrind. Fydd yn a ddim bwlch rhwng ein disgwyliadau a'n profiadau. Chawn ni ddim ein siomi a fyddwn ni ddim yn byw mewn siomedigaeth. Bydd ein teimladau a'n ffydd yn cytuno'n llwyr. Byddwn yn dychwelyd i emosiwn o burdeb ble gallwn brofi'r gorau o'n calonnau'n cydweithio â gwirioneddau absoliwt.

Fydd dim rhaid i ni ymladd yn dda rhwng ein teimladau a'n ffydd yn yr Eden newydd, oherwydd fydd yna ddim naratif gystadleuol am natur Duw. Fydd yna ddim llygredd o fagwraeth Duw. Fydd yna ddim syniadau cyferbyniol i esbonio pam fod Duw'n gadael i bethau ddigwydd. Ac ni fydd yna unrhyw frathiadau arswydus na fydd pethau'n mynd yn iawn.

Fydd dim rhaid i ni ymladd yn dda oherwydd fe fyddwn ni'n dda. Yn gwbl gyflawn. Sicr. Buddugoliaethus. Byddwn wedi ein harwain yn ôl at ein dealltwriaeth o'r gwirionedd.

YMATEB:Sut mae deall ein bod yn byw bywyd rhwng dwy ardd yn dy helpu i brosesu dy siomedigaethau? Wyt ti'n cael dy gysuro o wybod y bydd Duw'n gwneud popeth yn iawn?

Am y Cynllun hwn

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

Wyt ti fyth yn cael dy hun yn dweud, "Dydy hyn ddim yn troi allan fel o'n i'n disgwyl"? Pa un ai os yw'n argyfwng mewn perthynas. colli un rwyt yn garu, salwch anesboniadwy, sefyllfa bywyd caled, mae Lysa TerKeurst yn deall ac yn dy wahodd i ymuno â hi ar y cynllun pum diwrnod hwn. Gyda'n gilydd fe wnawn ni ddysgu o ble mae siomedigaeth yn doda sut i ddarganfod y nerth annisgwyl rwyt ei angen i wynebu tor calon, mewn ffordd Feiblaidd.

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thomasnelson.com/p/its-not-supposed-to-be-this-way-book/