Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nid Fel Hyn mae Pethau i Fod: Sialens 5 niwrnod gan Lysa TerKeurstSampl

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

DYDD 2 O 5

Wedi ein Creu ar gyfer Perffeothrwydd

Siomediageth

Y teimlad yw, dylai pethau fod yn well nad ydyn nhw. Dylai pobl fod yn well and ydyn nhw. Dylai sefyllfaoedd fod yn well nad ydyn nhw. Dylai arian fod yn well nac ydy e. Dylai perthynas ga eraill fod yn well nag ydy e.

Ti'n gwybod beth? Ti'n iawn. Dylai popeth fod yn well nag ydy e. Does dim rhyfedd fy mod wedi blino, a dy fod tithau hefyd.

Aros gyda fi yn y fan hyn, a fad i mi ddod â rhywbeth i'r amlwg mae Satan wedi ymladd yn filain i'n cadw rhag gwybod.

Y siomedigaeth sy'n dy flino a'th wneud yn rwystredig? Mae e'n dal y potensial am gymaint o ddaioni. Ond., fyddwn ni ond yn ei weld fel daioni os byddwn yn trystio calon y Rhoddwr.

Ti'n gweld, gall siomedigaeth fod yn rodd gan Dduw sy'n teimlo ddim byd fel rhodd. Mae e'n hynod o finiog, ac mae'n gallu ymddangos bron yn greulon wrth i ni wylio rywun yn ei ddadbacio. Bydd eu bysedd yn gwaedu. Byddan nhw'n teimlo fel eu bod wedi'u twyllo ac yn cael eu temtio i stopio trystio fod popeth da i'w gael tu mewn. Byddan nhw bron yn sicr o gwestiynu yr Un ganiataodd e iddo i'w rhan.

Ond, nid yw siomedigaeth yn brawf fod Duw ein hatal rhag pethau da. Weithiau, dyma ei ffordd o'n harwain ni adre. Ond i weld hyn, ac i ddeall yn union beth sy'n mynd ymlaen, rhaid i ni gymryd cam yn ôl ac edrych arno yng nghyd-destun stori epig cariad Duw. Yr un ble mae e'n achub a chymodi'r ddynoliaeth iddo'i hun.

Mae Genesis 1 a 2 yn dweud fod y galon ddynol wedi'i chreu ym mherffeithrwydd gardd Eden. Elli di ddychmygu sut olwg oedd ar y byd pan greodd Duw e gyntaf? Pan ddwedodd e ei fod i gyd yn dda. Yn dda iawn. Ac roedd e i gyd yn berffaith.

Roedd symffoni perffeithrwydd yn llenwi'r atmosffer. Roedd popeth yn mynd ar drai ac ar lanw mewn harmoni cyflawn. Doedd dim nad oedd yn edrych yn iawn nac o'i le. Roedd hi'n hyfryd, heddychlon, a boddhaol. Roedd yna heddwch perffaith mewn perthnasoedd.

Roedd agosatrwydd perthynas Adda ac Efa mor hyfryd, ac roedden nhw'n byw ym mhresenoldeb perffaith Duw. Roedd e'n baradwys gydag agosatrwydd unigryw lle byddai Duw'n rhyngweithio mewn perthynas uniongyrchol efo Adda ac Efa. Roedd yna ddarpariaeth a boddhad perffaith yn eu pwrpas. Doedd dim tristwch, anhrefn, nac anghyfiawnder. Doedd dim afiechyd, ysgaru, iselder, na marwolaeth. Doedd dim gymhellion oedd allan o'u lle, dim camdrafod, dim bwriadau maleisus.

Roedd e'r cyfan y gallet freuddwydio amdano, a chymaint mwy na hynny.

Do, cafodd y galon ddynol ei chreu yng nghyd-destun perffeithrwydd gardd Eden. Ond dŷn ni ddim yn byw yna nawr.

Ac mae'r boen a thor-calon sy'n ein llethu ar y funud hon yn ein gadael yn ddifrifol o siomedig.

Ond dŷn ni ddim yn siarad amdano.

Dŷn ni, un ai, ddim yn teimlo bod gennym ganiatâd i wneud neu dŷn ni ddim yn gwybod sut i brosesu ein siomedigaethau.

Ac os na fyddwn yn agor ffordd i brosesu ein siomedigaethau, byddwn yn cael ein temtio i adael i Satan ail sgwennu stori Duw o gariad fel naratif negatif, gan ein gadael braidd yn amheus o'n Creawdwr.

Ond, o fy ffrind annwyl, bydd yn sicr, fod Duw yn ein caru a gyda ni, hyd yn oed yn hyn, mae e, â'r cwbl mewn llaw. Ac mae ei gynlluniau'n dda, hyd yn oed, pan nad yw sefyllfaoedd yn teimlo'n dda. Gwna'n siŵr i ddarllen defosiwn yfory ble byddwn yn dysgu i ymladd rhwng ein ffydd â'n teimladau mewn cyfnodau o siomedigaeth.

YMATEB: Pa bethau'n dy fywyd wyt ti'n teimlo ddylai fod yn well nac ydyn nhw nawr? Gwna restr a'u hasesu'n onest. Sut mae'r siomedigaethau neu ddisgwyliadau na wnest ti eu cyrraedd yn effeithio arnat?

Am y Cynllun hwn

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

Wyt ti fyth yn cael dy hun yn dweud, "Dydy hyn ddim yn troi allan fel o'n i'n disgwyl"? Pa un ai os yw'n argyfwng mewn perthynas. colli un rwyt yn garu, salwch anesboniadwy, sefyllfa bywyd caled, mae Lysa TerKeurst yn deall ac yn dy wahodd i ymuno â hi ar y cynllun pum diwrnod hwn. Gyda'n gilydd fe wnawn ni ddysgu o ble mae siomedigaeth yn doda sut i ddarganfod y nerth annisgwyl rwyt ei angen i wynebu tor calon, mewn ffordd Feiblaidd.

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thomasnelson.com/p/its-not-supposed-to-be-this-way-book/