Nid Fel Hyn mae Pethau i Fod: Sialens 5 niwrnod gan Lysa TerKeurstSampl

Beth Os Ydw i Eisiau Fy Hapus Am Byth Nawr?
Sicr. Cyfforddus. Rhagweladwy.
Dyma i gyd eiriau dw i'n hiraethu am eu defnyddio i ddisgrifio fy mywyd. Fy normal.
Dw i'n amau y byddet ti'n iawn gyda'r rhain yn dermau diffiniol amdanat ti hefyd.
Ond mae'r Arglwydd yn ei gwneud hi'n glir yn ei Air na fydd pethau bob amser yn mynd fel y dymunwn yn y bywyd hwn rhwng dwy ardd:
Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. (Ioan 16:33)
Felly, peidiwch poeni am yfory, cewch groesi’r bont honno pan ddaw. (Mathew 6:34)
Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi'n mynd drwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi. (1 Pedr 4:12)
A gaf i fod yn onest? Mae'r holl drafferth yn achosi blinder.
Mae cerdded llwybr "Dydw i ddim yn gwybod" yn frawychus.
A dyna lle dŷn ni'n blino a gall gafael o’r ansicrwydd o’r hyn sydd i ddod effeithio arnom ni fel ein bod yn cael ein stranglo.
Mae ofn yn ymddangos yn gefnder agos i siom. Maen nhw'n gysylltiedig, oherwydd dŷn ni'n eu teimlo mor ddwfn, maen nhw'n ein parlysu mor hawdd, ac mae'r atebion clir y mae cymaint o Gristnogion yn ceisio eu rhoi arnyn nhw yn ein baglu. Dŷn ni'n awyddus i wneud pethau'n haws nag ydyn nhw go iawn.
Dw i’n deall nawr.
Ond yn y bywyd hwn rhwng dwy ardd nid dyna sut mae'r rhan fwyaf o bethau'n gweithio allan. Dŷn ni'n mynd trwy un siom ac yna daw un arall. Ac un arall.
Dŷn ni i gyd yn dal i feddwl, os gallwn ni oresgyn yr amgylchiad hwn, yna bydd bywyd yn tawelu ac yn olaf bydd y geiriau yn hapus am byth wedyn yn sgrolio ar draws yr olygfa ogoneddus ohonom yn neidio'n hapus i gyfeiriad y machlud.
Ond beth os mai bywyd yn tawelu a'th holl siomedigaethau'n diflannu fyddai'r peth gwaethaf a allai ddigwydd iti?
Beth os yw dy "Dydw i ddim yn gwybod" yn dy helpu, nid yn dy frifo?
Beth os yw dy "Dydw i ddim yn gwybod" yn dy helpu i ollwng gafael ar bethau nad wyt i fod i'w gwybod, oherwydd byddai'r wybodaeth honno'n faich rhy drwm ar gyfer heddiw? Ond mae'r un rwyt yn ei adnabod, yr
Arglwydd, mor berffaith abl i ddioddef y cyfan.
Wyt ti'n cofio'r adnodau hynny a ddarllenon ni am drafferthion? Dyma nhw eto yng nghyd-destun y darnau llawn:
“Dw i wedi dweud y pethau hyn wrthoch chi, er mwyn i chi gael profi'r heddwch go iawn sydd ynof fi. Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro'r byd.” (Ioan 16:33)
.“Y flaenoriaeth i chi ydy gadael i Dduw deyrnasu yn eich bywydau a gwneud beth sy'n iawn yn ei olwg; wedyn byddwch yn cael y pethau eraill yma i gyd. 34 Felly, peidiwch poeni am fory, cewch groesi'r bont honno pan ddaw. Mae'n well wynebu problemau un dydd ar y tro.” (Mathew 6:33–34)
“Ffrindiau annwyl, peidiwch synnu eich bod chi'n mynd drwy'r ffwrn dân ar hyn o bryd, fel petai rhywbeth annisgwyl yn digwydd i chi. 13 Dylech chi fod yn hapus am eich bod yn cael dioddef fel y gwnaeth y Meseia. Pan fydd e'n dod i'r golwg eto yn ei holl ysblander cewch brofi llawenydd cwbl wefreiddiol.” (1 Pedr 4:12–13)
Y manylyn hollbwysig i ni gael heddwch yng nghanol popeth dŷn ni'n ei wynebu yw, i ni aros yn agos at yr Arglwydd.
Dŷn ni'n meddwl ein bod ni eisiau cysur yn ystod cyfnodau 'dw i ddim yn gwybod' mewn bywyd. Ond nid yw cysur yn ateb i'w geisio;
yn hytrach, mae'n sgil-gynnyrch y byddwn ni'n ei fedi pan fyddwn ni'n aros yn agos at yr Arglwydd.
YMATEB: Sut allai dy gyfnod o "dw i ddim yn gwybod" fod yn dy helpu mewn gwirionedd, ac nid yn dy frifo? Pa adnod o'r darlleniad heddiw a'th annogodd di fwyaf am hyn? Ymrwyma i'w chofio'r wythnos hon.
Am y Cynllun hwn

Wyt ti fyth yn cael dy hun yn dweud, "Dydy hyn ddim yn troi allan fel o'n i'n disgwyl"? Pa un ai os yw'n argyfwng mewn perthynas. colli un rwyt yn garu, salwch anesboniadwy, sefyllfa bywyd caled, mae Lysa TerKeurst yn deall ac yn dy wahodd i ymuno â hi ar y cynllun pum diwrnod hwn. Gyda'n gilydd fe wnawn ni ddysgu o ble mae siomedigaeth yn doda sut i ddarganfod y nerth annisgwyl rwyt ei angen i wynebu tor calon, mewn ffordd Feiblaidd.
More
Cynlluniau Tebyg

Hadau: Beth a Pham

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Coda a Dos Ati

Rhoi iddo e dy Bryder

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Ymarfer y Ffordd
