Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Nid Fel Hyn mae Pethau i Fod: Sialens 5 niwrnod gan Lysa TerKeurstSampl

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

DYDD 1 O 5

Y Stori Dŷn ni'n ei ddweud wrthon ni ein Hunain

Mae gen i hoff stori dw i'n ei dweud wrthyf fi fy hun. Stori yw am sut dylai fy mywyd droi allan.

Er bod yna fanylion ar goll, mae, ar y cyfan yn llawn o ryw synnwyr o foddhad. Neu falle, ychydig mwy na boddhad. Mae'n stori o ymlacio i ddyfnder normalrwydd. Mae'n fan ble dw i'n gallu nodio fy mhen mewn cytundeb, cyn i unrhyw newidiadau gymryd lle. Dw i'n gallu cadw draw o sefyllfaoedd sydd ddim yn ymddangos, na theimlo'n iawn.

Mae pobl yn garedig. Mae pobl yn garedig ac yn gwneud beth ddwedon nhw oedden nhw am wneud, a ddim ond yn ddigon sarrug i gadw pethau'n ddiddorol. Mae daioni ymhobman o'n cwmpas. Mae heddwch yn loetran o'n cwmpas. A mae popeth yn ddiddan hyd at chwerthin mewn bodlonrwydd.

Dw i'n siwr bod gen tithau fersiwn o'r math yma o stori i'w ddweud wrth dy hun. Dŷn ni ddim am ddarllen diwedd y stori'n unig. Dŷn ni eisiau ei sgwennu hi ein hunain. Dŷn ni'n teimlo'n sicr iawn am y ffordd y dylai pethau droi allan. Ond dŷn ni'n byw'n yr ansicrwydd o naill ai fethu proffwydo na rheoli'r canlyniad.

Mae dynoliaeth yn ddibynnol iawn ar ganlyniadau. Dŷn ni'n dweud ein bod yn trystio Duw ond tu ôl i'r llenni, dŷn ni'n gweithio fel lladd nadredd a drysu'n emosiynau i geisio rheoli'r canlyniadau. Dŷn ni'n moli Duw pan mae ein normal yn edrych fel beth o'n i'n ddisgwyl. Dŷn ni'n cwestiynu Duw pan dydy e ddim. Wedyn, dŷn ni'n cerdded i ffwrdd oddi wrth Dduw pan dŷn ni'n amau mai Duw losgodd y gobaith oedd yn ein clymu at ein gilydd. Gall hyd yn oed y bobl cadarn eu sylfaen deimlo fel eu bod wedi'u herwgipio gan newidiadau annisgwyl sy'n dod weithiau fel gwynt i'n rhan.

Ydw, dw i'n tybio mod i'n gwybod beth ddylai Duw da ei wneud, ond yna yn ffeindio fy hun yn hynod o siomedig pan mae cyfeiriad y gwynt yn newid a does dim yn teimlo'n iawn. Dros y blynyddoedd dw i wedi wynebu torcalon sawl gwaith yn fy mhriodas. iechyd, a theulu. Nid fel hyn o'n i'n disgwyl i'm mywyd fod. Er fod manylion dy stori di'n wahanol, dydy e ddim fel oeddet ti'n ddisgwyl i bethau edrych yn dy fywyd nawr ychwaith.

Ond, dyma'r gobaith. Er na allwn, broffwydo, rheoli, na mynnu canlyniad ein sefyllfaoedd, gallwn wybod gyda sicrwydd y byddwn ni'n iawn. Yn well na iawn. Yn well na normal. Byddwn yn fuddugoliaethus oherwydd bod Iesu'n fuddugoliaethus (1 Corinthiaid, pennod 15, adnod 57). Doedd pobl buddugoliaethus ddim i fod i setlo am normal.

Ond beth os mai dim ond rhan o'r ganlyniad y stori yw buddugoliaeth? Beth os mai'r rhan fwyaf o'r fuddugoliaeth yw sut ydyn ni'n byw heddiw? Yr awr hon. Y funud hon.

Dros y dyddiau nesaf, fe wnawn ni ddechrau darganfod ffordd i glymu ein gobaith, nid i ganlyniad penodol oedden ni'n ddisgwyl fyddai'n ein harwain yn ôl at normal, ond yn uniongyrchol i galon Duw. Dyma awdur y stori na allai dy galon fyth ei ddychmygu, ond sy'n erfyn i gael byw, gyda phob pwniad o'r galon. Mae mwy i hyn nad wyt yn ei sylweddoli. Dw i ar bigau'r drain eisiau ei weld yn amlygu ei hun yn dy fywyd di, a fi.

YMATEB: Sut fyddet ti'n disgrifio dy fersiwn di o 'normal'? Gwna restr o rai o'r geiriau sy'n dod i'r meddwl. Sut mae dy olwg ar Dduw yn cael ei effeithio pan nad yw gwirionedd yn ymochri gyda'r ffordd yr hoffet ti i bethau fod?

Am y Cynllun hwn

It’s Not Supposed To Be This Way: A 5-Day Challenge By Lysa TerKeurst

Wyt ti fyth yn cael dy hun yn dweud, "Dydy hyn ddim yn troi allan fel o'n i'n disgwyl"? Pa un ai os yw'n argyfwng mewn perthynas. colli un rwyt yn garu, salwch anesboniadwy, sefyllfa bywyd caled, mae Lysa TerKeurst yn deall ac yn dy wahodd i ymuno â hi ar y cynllun pum diwrnod hwn. Gyda'n gilydd fe wnawn ni ddysgu o ble mae siomedigaeth yn doda sut i ddarganfod y nerth annisgwyl rwyt ei angen i wynebu tor calon, mewn ffordd Feiblaidd.

More

Hoffem ddiolch i HarperCollins am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.thomasnelson.com/p/its-not-supposed-to-be-this-way-book/