Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Arogl Pechod (Timothy G. Walton)
Teithiodd un pregethwr Americanaidd o dre i dre’n pregethu neges yr efengyl. Mae tystiolaeth yn adrodd y byddai’n oedi ar gyrion tref ac yn dweud, “Dw i’n arogli uffern!” Pe bydden ni’n sensitif fel hyn, a fydde’r byd yn arogli fel uffern i ni? Mae e’n gysyniad hollol ddieithr heddiw. Ac eto mae'r arogl rhyfedd hwnnw'n treiddio'r byd hwn dŷn ni'n byw ynddo oherwydd canlyniad pechod Adda ac Efa.
Bethj wyt ti’n ei feddwl am bechod? Mae gan bobl bob math o ffyrdd creadigol i ddelio gyda pechod. Mae nhw’n ei wadu. Mae nhw’n gwneud yn fach ohono. Mae nhw’n creu esgusodion ar ei ran. Mae nhw’n gosod y bai ar eraill amdano. Mae Duke, cymeriad ffuglennol yn The Thirteen Clocks gan James Thurber, yn cyfaddef, "Mae gan bob un ohonom ein gwendidau bach; fy un i yn digwydd yw fy mod i'n ddrwg."
Pam fod pechod yn bechadurus? Pwy sy’n dweud pechod yw pechod? Mae galw pechod yn bechod yn gosod safon. Os yw plismon yn eich stopio am or-yrru mae hynny’n awgrymu fod arwydd wedi’i osod i nodi cyflymder, ond eto, fe wnes ti ei dorri. Mae safon moesol ar gyfer dynoliaeth gyfan yn dod yn syth allan o gymeriad sanctaidd Duw.
Mae’r byd hwn sy’n arogli fel pechod yn arogli fel marwolaeth hefyd. Mae’r Beibl yn dweud mai cyflog pechod yw marwolaeth. Roedd yna farwolaeth yn yr Ardd. Wrth gwrs, wnaeth Adda ac Efa ddim disgyn yn farw yr eiliad y gwnaethon nhw fwyta o ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth, ond fe wnaeth dau beth ddigwydd ar unwaith. Plannwyd ynddynt hedyn marwolaeth corfforol. Dechreuodd dau unigolyn, oedd wedi’u creu i fod yn fythol ifanc, heneiddio, ac mewn amser bydden nhw’n marw. Fe wnaethon nhw hefyd farw’n ysbrydol. Fe wnaeth eu perthynas agos a chyfeillgar â Duw farw. Mae’r olygfa nesaf yn Genesis, pennod 3, yn adrodd am Adda ac Efa yn cuddio ynghanol y coed yn yr ardd. Er nad oedden nhw’n sylweddoli ar y pryd, yr unig obaith oedd ganddyn nhw oedd y byddai Duw’n gwneud rywbeth arwrol i’w hachub a dod â nhw n ôl i berthynas iachusol ag e. Pan aberthwyd dau anifail a chyhoeddi dyfodiad Iesu Grist, y Gwaredwr (Genesis, pennod 3,adnod 15), gwnaeth yn union hynny.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.
More
Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056