Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Pandita Ramabai (India, 1858-1922)
Rhai blynyddoedd yn ôl deuthum i'r argyhoeddiad mai'r cwbl oedd gen i oedd cred deallusol - cred lle nad oedd bywyd. Cred oedd yn edrych am iachawdwriaeth yn y dyfodol ar ôl marwolaeth; ac o ganlyniad nid oedd fy enaid wedi "Symud o farwolaeth i fywyd." Dangosodd Duw i mi pa mor beryglus oedd fy sefyllfa, a chymaint o bechadur truenus oeddwn i, a pha mor angenrheidiol oedd hi i gael iachawdwriaeth yn y presennol, ac nid rhywbryd yn y dyfodol. Bûm yn edifarhau'n am amser hir; roeddwn yn anghyfforddus iawn gan ymylu ar fod yn sâl gan ddioddef sawl noson o ddiffyg cwsg. Roedd yr Ysbryd Glân wedi gafael ynof gymaint nes i mi ddod o hyd i iachawdwriaeth yn y fan a'r lle. Felly gweddïais yn daer ar Dduw i faddau fy mhechodau er mwyn Iesu Grist a gadael i mi sylweddoli fy mod wedi cael iachawdwriaeth drwyddo e. Roeddwn i'n credu addewid Duw a'i gymryd ar ei air, a phan wnes i hyn, cymerodd fy maich, a sylweddolais fy mod wedi cael maddeuant a'm rhyddhau o rym pechod.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.
More
Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056