Yna aeth yr Israeliaid o Fynydd Hor ar hyd ffordd y Môr Coch, ac o amgylch gwlad Edom. Dechreuodd y bobl fod yn anniddig ar y daith, a siarad yn erbyn Duw a Moses, a dweud, “Pam y daethoch â ni o'r Aifft i farw yn yr anialwch? Nid oes yma na bwyd na diod, ac y mae'n gas gennym y bwyd gwael hwn.” Felly anfonodd yr ARGLWYDD seirff gwenwynig ymysg y bobl, a bu nifer o'r Israeliaid farw wedi iddynt gael eu brathu ganddynt. Yna daeth y bobl at Moses, a dweud, “Yr ydym wedi pechu trwy siarad yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di; gweddïa ar i'r ARGLWYDD yrru'r seirff ymaith oddi wrthym.” Felly gweddïodd Moses ar ran y bobl, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Gwna sarff a'i gosod ar bolyn, a bydd pawb a frathwyd, o edrych arni, yn cael byw.” Felly gwnaeth Moses sarff bres, a'i gosod ar bolyn, a phan fyddai rhywun yn cael ei frathu gan sarff, byddai'n edrych ar y sarff bres, ac yn byw.
Darllen Numeri 21
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Numeri 21:4-9
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos