Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 34 O 46

Ymprydio

I rai Cristnogion mae hi'n draddodiad i ymwrthod oddi wrth ryw fath o bleser neu foddhad yn ystod y Grawys. Pan fyddwn yn penderfynu beth i ymatal rhagddo dros gyfnod y Grawys dŷn ni'n aml yn dewis rywbeth dŷn ni'n ystyried fel rhwystr i'n tyfiant gydag Iesu Grist. Ond doedd y ffurfiau mwyaf hynafol o ymprydio - ymwrthod â bwyd neu cadw at ddeiet arbennig - ddim yn cael eu gwneud i gael gwared ar bleserau pechadurus o'n bywydau.

Falle, wrth golli'r grefft o ymprydio dŷn ni wedi colli'r ddealltwriaeth o'r hyn y gellir ei ennill o ymwrthod yn wirfoddol oddi wrth rywbeth y tybiwn i fod yn anghenraid. rwy gydol hanes beiblaidd a Christnogol, mae llawer wedi ymprydio am gyfnodau rhesymol ac iach. Yn wir, nid yw disgwyliadau boddhad ar unwaith yn ein diwylliant yn ymateb yn dda i wadu maeth. Ond a allai fod gan Dduw rywbeth i'w ddatgelu i ni yn ein hunanymwadiad byrhoedlog?

Ysgrythur

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056