Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 28 O 46

Gweddi i wneud Daioni (F.B. Meyer [Lloegr, 1847-1929])

Maddau i mi, O Arglwydd a Thad graslon, os os wyf heddiw wedi gwneud neu ddweud unrhyw beth i gynyddu poen y byd. Maddau i mi am y gair angharedig, yr ystum ddiamynedd, y weithred galed a hunanol, y methiant i ddangos cydymdeimlad a help caredig lle cefais y cyfle, a galluoga fi i fyw fel fy mod yn gallu gwneud rhywbeth bob dydd i leihau llanw tristwch dynol, ac ychwanegu fwy-fwy at hapusrwydd dynol.

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwybod a'i peidio beth yw ystyr y Grawys neu dy fod wedi cadw at draddodiad y Grawys a'r calendr eglwysig dy holl fywyd, byddi'n gwerthfawrogi'r darlleniadau o'r Ysgrythur a chraffter defosiynol Cristnogion ar hyd a lled y byd ac mewn hanes drwyddi draw. Ymuna hefo ni a'r eglwys drwy'r byd i ffocysu ar Iesu drwy'r wythnosau sy'n arwain i fyny i'r Pasg.

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056