Salm 98
98
1Canwch i’r Arglwydd gân newydd · oherwydd gwnaeth / ryfe/ddodau :
cafodd fuddugoliaeth â’i ddeheulaw / ac â’i / fraich – / sanctaidd.
2Gwnaeth yr Arglwydd ei fuddu/goliaeth · yn / hysbys :
datguddiodd ei gyf/iawnder o / flaen · y cen/hedloedd.
3‡ Cofiodd ei gariad a’i ffyddlondeb tuag / at dŷ / Israel :
gwelodd holl gyrrau’r / ddaear · fuddu/goliaeth · ein / Duw.
4Bloeddiwch mewn gorfoledd i’r Arglwydd, yr / holl – / ddaear :
canwch mewn lla/wenydd / a rhowch / fawl.
5Canwch fawl i’r / Arglwydd · â’r / delyn :
â’r / delyn · ac / â sain / cân.
6Â thrwmpedau ac / â sain / utgorn :
bloeddiwch o / flaen y / Brenin · yr / Arglwydd.
7Rhued y môr a’r / cyfan · sydd / ynddo :
y byd a / phawb sy’n / byw – / ynddo.
8Bydded i’r dyfroedd / guro / dwylo :
bydded i’r mynyddoedd ganu’n / llawen / gyda’i / gilydd
9O flaen yr Arglwydd, oherwydd y mae’n dyfod i / farnu’r / ddaear :
bydd yn barnu’r byd â chyfiawnder, a’r / bobloedd / ag un/iondeb.
Currently Selected:
Salm 98: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009