Salm 99
99
1Y mae’r Arglwydd yn frenin / cryna’r / bobloedd :
y mae wedi ei orseddu uwch y cer/wbiaid · ys/gydwa’r / ddaear.
2Y mae’r Arglwydd yn / fawr yn / Seion :
y mae’n ddyrchafedig / uwch yr / holl – / bobloedd.
3‡ Bydded / iddynt / foli :
dy enw mawr ac of/nadwy · / sanctaidd · yw / ef.
4Un cryf sydd frenin · y mae’n / caru · cyf/iawnder :
Ti sydd wedi sefydlu uniondeb · gwnaethost / farn · a chyf/iawnder · yn / Jacob.
5Dyrchafwch yr / Arglwydd · ein / Duw :
ymgrymwch o flaen ei / droedfainc / sanctaidd · yw / ef.
6Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid · a Samuel ymhlith y rhai a alwodd / ar ei / enw :
galwasant ar yr Arglwydd / ac a/tebodd / hwy.
7Llefarodd wrthynt mewn / colofn / gwmwl :
cadwasant ei dystiolaethau a’r / ddeddf a / roddodd / iddynt.
8O Arglwydd, ein Duw, a/tebaist / hwy :
Duw yn maddau fuost iddynt, ond yn / dial / eu cam/weddau.
9Dyrchafwch yr Arglwydd ein Duw · ymgrymwch yn ei / fynydd / sanctaidd :
sanctaidd yw’r / Arglwydd / ein – / Duw.
Currently Selected:
Salm 99: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009