Bible App logo
Search Icon

Salm 97

97
1Y mae’r / Arglwydd · yn / frenin :
gorfoledded y ddaear · bydded y/nysoedd / lawer · yn / llawen.
2Y mae cymylau a thy/wyllwch · o’i / amgylch :
cyfiawnder a / barn yn / sylfaen · i’w / orsedd.
3Y mae tân yn / mynd o’i / flaen :
ac yn llosgi ei e/lynion / oddi / amgylch.
4Y mae ei fellt yn go/leuo’r / byd :
a’r / ddaear · yn / gweld · ac yn / crynu.
5Y mae’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o / flaen yr / Arglwydd :
o flaen / Arglwydd · yr / holl – / ddaear.
6Y mae’r nefoedd yn cyhoeddi / ei gyf/iawnder :
a’r holl / bobloedd · yn / gweld · ei o/goniant.
7Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau · sy’n ymffrostio / mewn ei/lunod :
ymgrymwch iddo / ef yr / holl – / dduwiau.
8Clywodd Seion a llawenhau · ac yr oedd trefi Jwda yn / gorfol/eddu :
o achos dy farnedi/gaethau / O – / Arglwydd.
9Oherwydd yr wyt ti, Arglwydd, yn oruchaf / dros yr · holl / ddaear :
yr wyt wedi dy ddyrchafu’n uwch o / lawer / na’r holl / dduwiau.
10Y mae’r Arglwydd yn caru’r rhai sy’n ca/sáu dryg/ioni :
y mae’n cadw bywydau ei ffyddloniaid · ac yn eu / gwared · o / ddwylo’r · dryg/ionus.
11Heuwyd goleuni / ar y / cyfiawn :
a llawenydd / ar yr / uniawn · o / galon.
12Llawenhewch yn yr / Arglwydd · rai / cyfiawn :
a mo/liannwch · ei / enw / sanctaidd.

Currently Selected:

Salm 97: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in