Salm 96
96
1Canwch i’r Arglwydd / gân – / newydd :
canwch i’r / Arglwydd / yr holl / ddaear.
2Canwch i’r Arglwydd, ben/dithiwch · ei / enw :
cyhoeddwch ei iachaw/dwriaeth · o / ddydd i / ddydd.
3Dywedwch am ei ogoniant y/mysg y / bobloedd :
ac am ei ryfeddodau y/mysg yr / holl gen/hedloedd.
4Oherwydd mawr yw’r Arglwydd, a theilwng / iawn o / fawl :
y mae i’w ofni’n / fwy na’r / holl – / dduwiau.
5Eilunod yw holl / dduwiau’r / bobloedd :
ond yr / Arglwydd · a / wnaeth y / nefoedd.
6Y mae anrhydedd a / mawredd · o’i / flaen :
nerth a go/goniant / yn ei / gysegr.
7Rhowch i’r Arglwydd, dyl/wythau’r · cen/hedloedd :
rhowch i’r / Arglwydd · an/rhydedd · a / nerth;
8Rhowch i’r Arglwydd an/rhydedd · ei / enw :
dygwch / offrwm · a / dewch · i’w gyn/teddoedd. ‡
9Ymgrymwch i’r Arglwydd yn ysblander / ei sanc/teiddrwydd :
crynwch o’i / flaen, yr / holl – / ddaear.
10aDywedwch ymh/lith · y cen/hedloedd :
“Y mae’r / Ar–/glwydd yn / frenin”;
10bYn wir, y mae’r byd yn sicr ac / nis sy/mudir :
bydd ef yn / barnu’r / bobloedd · yn / uniawn.
11Bydded y nefoedd yn llawen a gorfo/ledded · y / ddaear :
rhued y / môr a’r / cyfan · sydd / ynddo,
12Llawenyched y maes a / phopeth · sydd / ynddo :
yna bydd holl brennau’r / goedwig · yn / canu’n / llawen
13aO flaen yr Arglwydd, o/herwydd · y mae’n / dod :
oherwydd y mae’n / dod i / farnu’r / ddaear.
13bBydd yn barnu’r byd / â chy/fiawnder :
a’r / bobloedd / â’i wir/ionedd.
Currently Selected:
Salm 96: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009