Bible App logo
Search Icon

Salm 95

95
1Dewch, canwn yn / llawen · i’r / Arglwydd :
rhown floedd o orfoledd i / graig ein / hiachaw/dwriaeth.
2Down i’w brese/noldeb · â / diolch :
gorfoleddwn ynddo / â chan/euon / mawl.
3Oherwydd Duw / mawr yw’r / Arglwydd :
a brenin mawr go/ruwch yr / holl – / dduwiau.
4Yn ei law ef y mae dyfn/derau’r / ddaear :
ac eiddo ef yw / uchel/derau’r · my/nyddoedd.
5Eiddo ef yw’r môr, ac / ef a’i / gwnaeth :
ei ddwylo / ef a / greodd y / sychdir.
6Dewch, addolwn / ac ym/grymwn :
plygwn ein gliniau ger/bron yr / Arglwydd · a’n / gwnaeth.
7aOherwydd ef / yw ein / Duw :
a ninnau’n bobl / iddo · a / defaid · ei / borfa;
7bHeddiw cewch / wybod ei / rym :
os gwran/dewch / ar ei / lais.
8Peidiwch â cha/ledu’ch · ca/lonnau :
fel yn Meriba · fel ar ddiwrnod / Massa / yn · yr an/ialwch,
9Pan fu i’ch hynafiaid fy / herio · a’m / profi :
er / iddynt / weld fy / ngwaith.
10Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y gen/hedlaeth / honno :
a dweud, “Pobl â’u calonnau’n cyfeiliorni ydynt, · ac nid / ydynt · yn / gwybod · fy / ffyrdd.”
11Felly tyngais / yn fy / nig :
na chaent / ddyfod / i’m gor/ffwysfa.

Currently Selected:

Salm 95: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 95