Salm 94
94
1O / Arglwydd · Dduw / dial :
Dduw / dial / ym–/ddangos.
2Cyfod, O / farnwr · y / ddaear :
rho eu / haeddiant / i’r – / balch.
3Am ba hyd y bydd y dryg/ionus / Arglwydd :
y bydd y dryg/ionus · yn / gorfo/leddu?
4Y maent yn tywallt eu / parabl · tra/haus :
y mae’r holl wneuthurwyr dryg/ioni’n / ymfal/chïo.
5Y maent yn sigo dy / bobl · O / Arglwydd :
ac yn poe/nydio · dy / eti/feddiaeth.
6Lladdant y / weddw · a’r / estron :
a llo/fruddio’r / am–/ddifad,
7A dweud, “Nid yw’r / Arglwydd · yn / gweld :
ac nid yw / Duw – / Jacob · yn / sylwi.”
8Deallwch hyn, chwi’r / dylaf · o / bobl :
ffyliaid, pa / bryd y / byddwch / ddoeth?
9Onid yw’r un a blannodd / glust yn / clywed :
a’r un a / luniodd / lygad · yn / gweld?
10Onid oes gan yr un sy’n disgyblu cen/hedloedd / gerydd :
a’r un sy’n / dysgu / pobl wy/bodaeth? ‡
11Y mae’r Arglwydd yn gwybod me/ddyliau / pobl :
mai / gwa–/gedd – / ydynt.
12Gwyn ei fyd y sawl a ddis/gybli · O / Arglwydd :
ac a / ddysgi / allan · o’th / gyfraith,
13I roi iddo lonyddwch rhag / dyddiau / adfyd :
nes / agor / pwll · i’r dryg/ionus.
14Oherwydd nid yw’r Arglwydd yn / gwrthod · ei / bobl :
nac yn / gadael · ei / eti/feddiaeth;
15Oherwydd dychwel barn / at y · rhai / cyfiawn :
a bydd yr holl rai / uniawn / yn ei / dilyn.
16Pwy a saif drosof yn erbyn / y dryg/ionus :
a sefyll o’m plaid yn / erbyn · gwneu/thurwyr · dryg/ioni?
17Oni bai i’r Arglwydd fy ng/hynor/thwyo :
byddwn yn fuan wedi / mynd i / dir dis/tawrwydd.
18Pan oeddwn yn meddwl bod fy / nhroed yn / llithro :
yr oedd dy ffyddlondeb di, O / Arglwydd / yn fy / nghynnal.
19Er bod pryderon fy nghalon / yn ni/ferus :
y mae dy gysuron / di’n fy / llawen/hau.
20A fydd cynghrair rhyngot ti a lly/wodraeth / distryw :
sy’n cyn/llunio / niwed · trwy / gyfraith?
21Cytunant â’i gilydd am / fywyd · y / cyfiawn :
a chon/demnio’r · di/euog i / farw.
22Ond y mae’r Arglwydd yn am/ddiffyn · i / mi :
a’m / Duw yn / graig · i’m llo/chesu.
23Daw â’u camweddau eu hunain yn ôl arnynt · ac fe’u diddyma am / eu dryg/ioni :
bydd yr Arglwydd ein / Duw yn / eu di/ddymu.
Currently Selected:
Salm 94: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009