YouVersion Logo
Search Icon

Salm 9

9
1Diolchaf i ti, Arglwydd / â’m holl / galon :
adroddaf / am dy / ryfe/ddodau.
2Llawenhaf a gorfoleddaf / ynot / ti :
canaf fawl i’th / enw / y Go/ruchaf.
3Pan dry fy ngelynion / yn eu / holau :
baglant a / threngi / o’th – / flaen.
4Gwnaethost yn deg â mi / yn fy / achos :
ac eistedd ar dy / orsedd · yn / farnwr / cyfiawn.
5Ceryddaist y cenhedloedd a di/fetha’r · dryg/ionus :
a di/leaist · eu / henw · am / byth.
6Darfu am y gelyn mewn ad/feilion / bythol :
yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd ·
a di/flannodd · y / cof am/danynt.
7Ond y mae’r Arglwydd wedi ei or/seddu · am / byth :
ac wedi para/toi ei / orsedd · i / farn.
8Fe farna’r / byd · mewn cyf/iawnder :
a gwrando / achos · y / bobloedd · yn / deg.
9Bydded yr Arglwydd yn amddiffynfa i’r / gorthry/medig :
yn amddi/ffynfa · yn / amser · cy/fyngder,
10Fel y bydd i’r rhai sy’n cydnabod dy enw ym/ddiried / ynot :
oherwydd ni adewaist / Arglwydd ·
y / rhai sy’n · dy / geisio.
11Canwch fawl i’r Arglwydd sy’n / trigo · yn / Seion :
cyhoeddwch ei weith/redoedd · y/mysg y / bobloedd.
12Fe gofia’r dialydd / gwaed am/danynt :
nid yw’n ang/hofio / gwaedd · yr ang/henus.
13Bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd, ·
sy’n fy nyrchafu / o byrth / angau :
edrych ar fy adfyd oddi ar law y / rhai sy’n / fy ngha/sáu,
14Imi gael adrodd / dy holl / fawl :
a llawenhau yn dy ware/digaeth ·
ym / mhyrth merch / Seion.
15Suddodd y cenhedloedd i’r pwll a / wnaethant · eu / hunain :
daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent
/ hwy – / wedi · ei / chuddio.
16Datguddiodd yr Arglwydd ei / hun, gwnaeth / farn :
maglwyd y drygionus gan / waith ei / ddwylo’i / hun.
17Bydded i’r drygionus ddy/chwelyd · i / Sheol :
a’r holl genhedloedd / sy’n ang/hofio / Duw.
18Oherwydd nid anghofir y / tlawd am / byth :
ac ni ddryllir gobaith yr ang/henus / yn bar/haus.
19Cyfod, Arglwydd · na / threched · meid/rolion :
ond doed y cen/hedloedd · i / farn o’th / flaen.
20Rho arswyd / ynddynt / Arglwydd :
a bydded i’r cenhedloedd / wybod · mai / meidrol / ydynt.

Currently Selected:

Salm 9: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in