YouVersion Logo
Search Icon

Salm 8

8
1O Arglwydd, ein Iôr,
mor ardderchog yw dy enw ar yr / holl / ddaear :
gosodaist dy o/goniant / uwch y / nefoedd,
2Codaist amddiffyn rhag dy elynion
o enau babanod / a phlant / sugno :
a thawelu’r / gelyn / a’r di/alydd.
3Pan edrychaf ar y nefoedd / gwaith dy / fysedd :
y lloer a’r sêr, a / roddaist / yn eu / lle,
4Beth yw meidrolyn, i/ti ei / gofio :
a’r teulu dynol, i/ti o/falu am/dano?
5Eto gwnaethost ef ychydig / islaw / duw :
a’i goroni â go/goniant / ac an/rhydedd.
6Rhoist iddo awdurdod ar / waith dy / ddwylo :
a gosod / popeth / dan ei / draed:
7Defaid ac / ychen · i / gyd :
yr ani/feiliaid / gwylltion / hefyd,
8Adar y nefoedd, a / physgod · y / môr :
a phopeth sy’n tram/wyo / llwybrau’r / dyfroedd.
9O / Arglwydd · ein / Iôr :
mor ardderchog yw dy / enw · ar yr / holl – / ddaear!

Currently Selected:

Salm 8: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in