YouVersion Logo
Search Icon

Salm 10

10
1Pam, Arglwydd, y / sefi / draw :
ac ym/guddio · yn / amser · cy/fyngder?
2Y mae’r drygionus yn ei falchder yn ymlid / yr ang/henus :
dalier ef yn y cyn/lluniau / a ddy/feisiodd.
3Oherwydd ymffrostia’r drygionus yn ei / chwant ei / hun :
ac y mae’r barus yn melltithio ac / yn dir/mygu’r / Arglwydd.
4Nid yw’r drygionus ffroenuchel / yn ei / geisio :
nid oes lle i / Dduw · yn ei / holl gyn/lluniau.
5Troellog yw ei ffyrdd bob amser ·
y mae dy farnau di y tu / hwnt – / iddo :
ac am ei holl e/lynion / fe’u dir/myga.
6Fe ddywed ynddo’i hun, / “Ni’m sy/mudir :
trwy’r cenedlaethau / ni ddaw / niwed / ataf.”
7Y mae ei enau’n llawn melltith / twyll a / thrais :
y mae cynnen a dryg/ioni / dan ei / dafod.
8Y mae’n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi ·
ac yn lladd y diniwed / yn y / dirgel :
gwylia ei / lygaid / am yr · an/ffodus.
9Llecha’n ddirgel fel / llew · yn ei / ffau :
llecha er mwyn llarpio’r truan · ac fe’i deil / trwy ei / dynnu · i’w / rwyd;
10Caiff ei ysigo a’i ddar/ostwng / ganddo :
ac fe syrthia’r an/ffodus / i’w gra/fangau.
11Dywed yntau ynddo’i hun, “Ang/hofiodd / Duw :
cuddiodd ei / wyneb · ac / ni wêl / ddim.”
12Cyfod, Arglwydd · O Dduw / cod dy / law :
nac ang/hof–/ia’r ang/henus.
13Pam y mae’r drygionus yn dy ddir/mygu · O / Dduw :
ac yn tybio ynddo’i hun nad / wyt yn / galw · i / gyfrif?
14aOnd yn wir, yr wyt yn edrych ar / helynt · a / gofid :
ac yn sylwi er mwyn ei / gymryd / yn dy / law;
14bArnat ti y di/bynna’r · an/ffodus :
ti sydd wedi / cynor/thwyo’r · am/ddifad.
15Dryllia nerth y dryg/ionus · a’r / anfad :
chwilia am ei ddrygioni / nes ei / ddihys/byddu.
16Y mae’r Arglwydd yn / frenin · byth / bythoedd :
difethir y cen/hedloedd / o’i – / dir.
17Clywaist, O Arglwydd, ddyhead / yr ang/henus :
yr wyt yn cryfhau eu / calon · wrth / wrando / arnynt,
18Yn gweinyddu barn i’r amddifad a’r / gorthry/medig :
rhag i feidrolion / beri / ofn – / mwyach.

Currently Selected:

Salm 10: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in