Salm 82
82
Siant sengl
1Y mae Duw yn ei le yn y / cyngor / dwyfol :
yng nghanol y / duwiau / y mae’n / barnu.
2“Am ba hyd y barnwch / yn ang/hyfiawn :
ac y dangoswch / ffafr at / y dryg/ionus?
3Rhowch ddedfryd o blaid y gwan / a’r am/ddifad :
gwnewch gyfiawnder â’r tru/enus · a’r / diym/geledd.
4Gwaredwch y gwan / a’r ang/henus :
achubwch / hwy o / law’r dryg/ionus.
5Nid ydynt yn gwybod nac yn deall · ond y maent yn cerdded / mewn ty/wyllwch :
a holl syl/feini’r / ddaear · yn / ysgwyd.
6Fe ddywedais i / ‘Duwiau / ydych :
a meibion i’r Gor/uchaf · bob / un o/honoch.’
7Eto, byddwch farw / fel meid/rolion :
a / syrthio · fel / unrhyw · dy/wysog.”
8Cyfod, O Dduw, i / farnu’r / ddaear :
oherwydd eiddot / ti yw’r / holl gen/hedloedd.
Currently Selected:
Salm 82: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009