Bible App logo
Search Icon

Salm 83

83
1O Dduw, paid â / bod yn / ddistaw :
paid â thewi nac / ymda/welu · O / Dduw.
2Edrych fel y mae dy elynion / yn ter/fysgu :
a’r rhai sy’n dy ga/sáu yn / codi · eu / pennau.
3Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn / erbyn · dy / bobl :
a gosod cynllwyn yn erbyn y / rhai a / amddi/ffynni,
4A dweud, “Dewch, inni eu di/fetha · fel / cenedl :
fel na chofir / enw / Israel / mwyach.”
5Cytunasant yn / unfryd · â’i / gilydd :
a gwneud / cynghrair / i’th – / erbyn,
6Pebyll Edom / a’r Is/maeliaid :
Mo/abiaid / a’r Ha/gariaid,
7Gebal / Ammon · ac / Amalec :
Philistia / a thri/golion / Tyrus;
8Asyria hefyd a unodd / gyda / hwy :
a chynnal / breichiau / tylwyth / Lot.
9Gwna iddynt fel y / gwnaethost · i / Sisera :
ac i / Jabin / wrth nant / Cison,
10Ac i Midian, a ddinistriwyd wrth / ffynnon / Harod :
a / mynd yn / dom · ar y / ddaear.
11Gwna eu mawrion fel / Oreb · a / Seeb :
a’u holl dywysogion fel / Seba / a Sal/munna,
12Y rhai / a ddy/wedodd :
“Meddiannwn i ni ein / hunain · holl / borfeydd / Duw.”
13O fy Nuw, gwna hwy fel / hadau · he/degog :
fel / us o / flaen – / gwynt.
14Fel tân yn / difa / coedwig :
fel / fflamau’n / llosgi / mynydd,
15Felly yr ymlidi / hwy â’th / storm :
a’u bra/wychu / â’th – / gorwynt.
16Gwna eu hwynebau’n / llawn cy/wilydd :
er mwyn iddynt / geisio · dy / enw · O / Arglwydd.
17Bydded iddynt aros mewn gwarth a chy/wilydd · am / byth :
ac mewn gwa/radwydd · di/fether / hwy.
18Bydded iddynt wybod mai ti yn unig, a’th / enw’n / Arglwydd :
yw’r Goruchaf / dros yr / holl – / ddaear.

Currently Selected:

Salm 83: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 83