Bible App logo
Search Icon

Salm 81

81
1Canwch fawl i / Dduw, ein / nerth :
bloeddiwch mewn gor/foledd · i / Dduw – / Jacob.
2Rhowch gân a / chanu’r / tympan :
y / delyn / fwyn a’r / nabl.
3Canwch utgorn ar y / lleuad / newydd :
ar y lleuad / lawn ar / ddydd ein / gŵyl.
4Oherwydd y mae hyn yn / ddeddf yn / Israel :
yn / rheol gan / Dduw – / Jacob,
5‡ Wedi ei roi’n orchymyn i Joseff pan ddaeth allan o / wlad yr / Aifft :
clywaf iaith nad / wyf yn / ei had/nabod.
6Ysgafnheais y baich / ar dy / ysgwydd :
a rhyddhau dy ddwylo / oddi / wrth · y bas/gedi.
7Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwa/redais / di :
ac atebais di yn ddirgel yn y taranau · profais / di wrth / ddyfroedd / Meriba.
8Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth / yn dy / erbyn :
O na fyddit yn / gwrando / arnaf · fi / Israel!
9Na fydded / gennyt · dduw / estron :
a phaid ag y/mostwng / i dduw / dieithr.
10Myfi yw’r Arglwydd dy Dduw · a’th ddygodd i / fyny · o’r / Aifft :
agor dy / geg, ac / fe’i – / llanwaf.
11Ond ni wrandawodd fy mhobl / ar fy / llais :
ac nid oedd / Israel · yn / fodlon / arnaf; ‡
12Felly anfonais hwy ymaith / yn eu · cyn/dynrwydd :
i wneud fel yr / oeddent / yn dy/muno.
13“O na fyddai fy mhobl yn / gwrando / arnaf :
ac na fyddai Israel yn / rhodio / yn fy / ffyrdd!
14Byddwn ar fyrder yn darostwng / eu ge/lynion :
ac yn troi fy llaw yn / erbyn · eu / gwrthwy/nebwyr.”
15Byddai’r rhai sy’n casáu’r Arglwydd yn ym/greinio · o’i / flaen :
a / dyna · eu / tynged · am / byth.
16Byddwn yn dy fwydo / â’r ŷd / gorau :
ac yn dy ddi/goni · â / mêl o’r / graig.

Currently Selected:

Salm 81: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

Video for Salm 81