YouVersion Logo
Search Icon

Salm 7

7
1O Arglwydd fy Nuw, ynot / ti · y llo/chesaf :
gwared fi rhag fy holl er/lidwyr · ac / arbed / fi,
2Rhag iddynt fy / llarpio · fel / llew :
a’m / darnio · heb / neb · i’m gwa/redu.
3O Arglwydd fy Nuw, os / gwneuthum / hyn :
os oes / twyll / ar fy / nwylo,
4Os telais ddrwg am / dda i’m / cyfaill :
ac ysbeilio fy / ngwrthwy/nebwr · heb / achos,
5Bydded i’m gelyn fy / erlid · a’m / dal :
bydded iddo sathru fy einioes i’r ddaear ·
a gosod f’an/rhydedd / yn y / llwch.
6Saf i fyny, O Arglwydd, yn dy ddig ·
cyfod yn erbyn / llid · fy nge/lynion :
deffro, fy / Nuw, i / drefnu / barn.
7Bydded i’r bobloedd ym/gynnull · o’th / amgylch :
eistedd dithau’n o/ruchel / uwch eu / pennau.
8O Arglwydd, sy’n barnu pobloedd ·
barna fi yn / ôl · fy nghyf/iawnder :
O Arglwydd, ac yn / ôl · y cy/wirdeb · sydd / ynof.
9Bydded diwedd ar ddrygioni’r drygionus ·
ond cadarnha / di y / cyfiawn :
ti sy’n profi meddyliau a cha/lonnau / ti Dduw / cyfiawn.
10Duw / yw fy / nharian :
ef sy’n gwa/redu’r / cywir · o / galon.
11Duw sydd / farnwr / cyfiawn :
a / Duw · sy’n ded/frydu · bob / amser.
12Yn wir, y mae’r drygionus yn hogi ei / gleddyf / eto :
yn plygu ei fwa ac / yn ei / wneud yn / barod;
13Y mae’n darparu ei / arfau / marwol :
ac yn / gwneud ei / saethau’n / danllyd.
14Y mae’n feichiog / o ddryg/ioni :
yn cenhedlu niwed / ac yn / geni / twyll.
15Y mae’n cloddio pwll ac / yn ei / geibio :
ac yn / syrthio · i’r / twll a / wnaeth.
16Fe ddychwel ei niwed arno / ef ei / hun :
ac ar ei ben / ef y / disgyn · ei / drais.
17Diolchaf i’r Arglwydd / am ei · gyf/iawnder :
a chanaf fawl i / enw’r / Arglwydd · Go/ruchaf.

Currently Selected:

Salm 7: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in