Salm 62
62
1Yn wir, yn Nuw yr ymda/wela · fy / enaid :
oddi wrtho ef y / daw fy / ngware/digaeth.
2Ef yn wir yw fy nghraig a’m / gware/digaeth :
fy amddi/ffynfa · fel / na’ sy/mudir.
3Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn · bob / un o/honoch :
a’i falurio, fel mur wedi go/gwyddo · a / chlawdd ar / syrthio?
4aYn wir, cynlluniant i’w dynnu i / lawr o’i / safle :
ac y maent yn / ymhyf/rydu · mewn / twyll;
4bY maent yn ben/dithio · â’u / genau :
ond ynddynt eu / hunain / yn mell/tithio.
5Yn wir, yn Nuw yr ymda/wela · fy / enaid :
oddi wrtho / ef y / daw fy / ngobaith.
6Ef yn wir yw fy nghraig a’m / gware/digaeth :
fy amddi/ffynfa · fel / na’m sy/mudir.
7Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth / a’m han/rhydedd :
fy nghraig / gadarn · fy / noddfa · yw / Duw.
8Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl · tywalltwch allan eich / calon / iddo: Duw / yw – / ein – / noddfa.
9aYn wir, nid yw / gwrêng ond / anadl :
nid yw / bonedd / ond – / rhith :
9bPan roddir hwy mewn / clorian / codant :
y maent i / gyd · yn ys/gafnach · nag / anadl.
10aPeidiwch ag ym/ddiried · mewn / gormes :
na go/beithio’n / ofer · mewn / lladrad;
10b‡ Er i gyfoeth / aml–/hau :
peidiwch â / gosod · eich / bryd – / arno.
11Unwaith y llefarodd Duw · dwywaith y / clywais / hyn :
i / Dduw y / perthyn / nerth,
12I ti, O Arglwydd, y / perthyn · ffydd/londeb :
yr wyt yn talu i bob / un yn / ôl · ei weith/redoedd.
Currently Selected:
Salm 62: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009