Bible App logo
Search Icon

Salm 63

63
1aO Dduw, ti yw fy Nuw, fe’th / geisiaf / di :
y mae fy enaid / yn sy/chedu · am/danat,
1bA’m cnawd yn di/hoeni · o’th / eisiau :
fel tir / sych a / diffaith · heb / ddŵr.
2Fel hyn y syllais arnat / yn y / cysegr :
a / gweld dy / rym · a’th o/goniant.
3Y mae dy ffyddlondeb yn / well na / bywyd :
am hynny bydd fy ngwe/fusau’n / dy fo/liannu.
4Fel hyn y byddaf yn dy fendithio / trwy fy / oes :
ac yn codi fy nwylo mewn / gweddi / yn dy / enw.
5Caf fy nigoni, fel pe ar / fêr a / braster :
a moliannaf / di · â gwe/fusau / llawen.
6Pan gofiaf di / ar fy / ngwely :
a myfyrio amdanat yng / ngwy·liadwr/iaethau’r / nos,
7Fel y buost yn / gymorth / imi :
ac fel yr arhosais yng / nghysgod / dy a/denydd,
8Bydd fy enaid yn / glynu / wrthyt :
a bydd dy dde/heulaw / yn fy / nghynnal.
9Ond am y rhai sy’n ceisio di/fetha · fy / mywyd :
byddant hwy’n suddo / i ddyfn/derau’r / ddaear;
10Fe’u tynghedir i / fin y / cleddyf :
a byddant yn ysg/lyfaeth / i lwy/nogod.
11Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw · a bydd pawb sy’n tyngu iddo ef yn / gorfo/leddu :
oherwydd caeir / safnau’r / rhai cel/wyddog.

Currently Selected:

Salm 63: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in