Bible App logo
Search Icon

Salm 61

61
1Clyw fy / nghri, O / Dduw :
a / gwrando / ar fy / ngweddi;
2O eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat · pan yw fy / nghalon · ar / suddo :
arwain fi at / graig sy’n / uwch na / mi;
3Oherwydd buost ti’n / gysgod / imi :
yn dŵr / cadarn / rhag y / gelyn.
4Gad imi aros yn dy / babell · am / byth :
a llochesu dan / gysgod / dy a/denydd.
5Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy / addu/nedau :
a gwnaethost ddymuniad y / rhai sy’n / ofni · dy / enw.
6Estyn ddyddiau lawer at / oes y / brenin :
a bydded ei fly/nyddoedd · fel / cened/laethau;
7Bydded wedi ei orseddu gerbron / Duw am / byth :
bydded cariad a gwi/rionedd · yn / gwylio / drosto.
8Felly y canmolaf dy / enw / byth :
a thalu fy addunedau / ddydd ar / ôl – / dydd.

Currently Selected:

Salm 61: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in