Bible App logo
Search Icon

Salm 60

60
1O Dduw, gwrthodaist / ni a’n / bylchu :
buost yn / ddicllon. / Adfer / ni!
2Gwnaethost i’r ddaear grynu / ac fe’i / holltaist :
trwsia ei rhwygiadau, o/herwydd / y mae’n / gwegian.
3Gwnaethost i’th bobl / yfed · peth / chwerw :
a rhoist inni / win a’n / gwna’n – / simsan.
4Rhoist faner i’r rhai / sy’n dy / ofni :
iddynt / ffoi · ati / rhag y / bwa.
5Er mwyn gwaredu / dy an/wyliaid :
achub â’th dde/heulaw · ac / ateb / ni.
6Llefarodd Duw / yn ei / gysegr :
“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem · a mesur / dyffryn / Succoth · yn / rhannau;
7Eiddof fi yw Gilead / a Ma/nasse :
Effraim yw fy helm, a Jwda / yw fy / nheyrnwi/alen;
8Moab yw fy nysgl ymolchi, ac at Edom y / taflaf · fy / esgid :
ac yn erbyn Phi/listia · y / gorfo/leddaf.”
9Pwy a’m dwg i’r / ddinas / gaerog? :
Pwy a’m / har–/wain i / Edom?
10Onid ti, O Dduw / er · iti’n / gwrthod :
a pheidio â mynd / allan / gyda’n · by/ddinoedd?
11Rho inni gymorth / rhag y / gelyn :
oherwydd ofer / yw ym/wared / dynol.
12Gyda Duw fe / wnawn wr/hydri :
ef fydd yn / sathru / ein ge/lynion.

Currently Selected:

Salm 60: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in