Salm 59
59
1Gwared fi oddi wrth fy ngelynion / O fy / Nuw :
amddiffyn fi / rhag fy / ngwrthwy/nebwyr.
2Gwared fi oddi wrth wneu/thurwyr · dryg/ioni :
ac / achub · fi / rhag rhai / gwaedlyd.
3Oherwydd wele, gosodant gynllwyn / am fy / einioes :
y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf · heb fod trosedd na / phechod / ynof · fi / Arglwydd,
4Heb fod drygioni ynof fi, rhedant i bara/toi i’m / herbyn :
cyfod, tyrd / ataf / fi ac / edrych.
5‡ Ti, Arglwydd Dduw y lluoedd, yw / Duw – / Israel :
deffro a chosba’r holl genhedloedd · paid â thrugarhau / wrth · y dryg/ionus · di/chellgar.
6Dychwelant / gyda’r / nos :
yn cyfarth fel cŵn ac yn / prowla / trwy’r / ddinas.
7Wele, y mae eu genau’n glafoerio · y mae cleddyf / rhwng eu / gweflau :
“Pwy”, / meddant / “sy’n – / clywed?”
8Ond yr wyt ti, Arglwydd, yn chwerthin / am eu / pennau :
ac yn / gwawdio’r / holl gen/hedloedd.
9O fy Nerth, dis/gwyliaf / wrthyt :
oherwydd / Duw yw / f’amddi/ffynfa.
10‡ Bydd fy Nuw trugarog yn / sefyll · o’m / plaid :
O Dduw, rho imi orfo/leddu / dros · fy nge/lynion.
11Paid â’u lladd rhag i’m / pobl ang/hofio :
gwasgar hwy â’th nerth a darostwng / hwy, O / Arglwydd · ein / tarian.
12Am bechod eu genau a gair eu gwefusau · dalier hwy gan eu / balchder · eu / hunain :
am y melltithion a’r cel/wyddau / a le/farant,
13Difa hwy yn dy lid / difa · hwy’n / llwyr :
fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau’r ddaear · mai Duw sy’n / llywod/raethu · yn / Jacob.
14Dychwelant / gyda’r / nos :
yn cyfarth fel cŵn / ac yn / prowla · trwy’r / ddinas.
15Crwydrant gan / chwilio · am / fwyd :
a / grwgnach / onis · di/gonir.
16aOnd canaf fi / am dy / nerth :
a gorfoleddu yn y / bore · am / dy ffydd/londeb;
16bOherwydd buost yn amddi/ffynfa · i / mi :
ac yn / noddfa · yn / nydd · fy nghy/fyngder.
17O fy Nerth, canaf / fawl i / ti :
oherwydd Duw yw f’amddi/ffynfa · fy / Nuw tru/garog.
Currently Selected:
Salm 59: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009