Salm 58
58
1Chwi gedyrn, a ydych mewn difri’n ded/frydu’n / gyfiawn? :
A ydych yn / barnu / pobl yn / deg?
2Na! Yr ydych â’ch calonnau’n dy/feisio · dryg/ioni :
ac â’ch dwylo’n gwas/garu / trais · dros y / ddaear.
3Y mae’r drygionus yn wrthry/felgar · o’r / groth :
a’r rhai sy’n llefaru celwydd yn / cyfei/liorni · o’r / bru.
4Y mae eu gwenwyn fel / gwenwyn / sarff :
fel asb / fyddar · sy’n / cau ei / chlustiau,
5‡ A heb wrando ar / sain y / swynwr :
sy’n taenu / ei hu/doliaeth / ryfedd.
6O Dduw, dryllia’r dannedd / yn eu / genau :
diwreiddia gil/ddannedd · y / llewod · O / Arglwydd.
7Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr / a mynd / ymaith :
a / chrino · fel / gwellt a / sethrir;
8Byddant fel erthyl / sy’n dif/lannu :
ac fel marw-anedig / na wêl / olau / dydd.
9Cyn iddynt wybod bydd yn / eu di/wreiddio :
yn ei ddig bydd yn eu / sgubo / ymaith · fel / chwyn.
10Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo / weld di/aledd :
ac yn golchi ei / draed yng / ngwaed · y dryg/ionus.
11A dywed pobl, “Yn ddi-os y mae / gwobr i’r / cyfiawn :
oes, y mae / Duw · sy’n gwneud / barn · ar y / ddaear.”
Currently Selected:
Salm 58: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009