Bible App logo
Search Icon

Salm 57

57
1aBydd drugarog wrthyf, O Dduw · bydd dru/garog / wrthyf :
oherwydd ynot / ti yr / wyf · yn llo/chesu;
1bYng nghysgod dy adenydd y / mae fy / lloches :
nes i’r / stormydd / fynd – / heibio.
2Galwaf ar y / Duw Go/ruchaf :
ar y Duw / sy’n gweith/redu / drosof.
3Bydd yn anfon o’r nefoedd i’m gwaredu · bydd yn cywilyddio’r rhai sy’n / gwasgu / arnaf :
bydd Duw yn anfon ei / gariad / a’i wi/rionedd.
4aYr wyf yn byw yng ng/hanol / llewod :
rhai / sy’n traf/lyncu / pobl,
4bA’u dannedd yn bi/cellau · a / saethau :
a’u / tafod · yn / gleddyf / miniog.
5Ymddyrchafa’n uwch na’r / nefoedd · O / Dduw :
a bydded dy ogoniant / dros yr / holl – / ddaear.
6aY maent wedi gosod / rhwyd i’m / traed :
ac / wedi · da/rostwng · fy / mywyd;
6b‡ Y maent wedi cloddio pwll / ar fy / nghyfer :
ond hwy eu hunain / fydd yn / syrthio / iddo.
7Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw · y mae fy / nghalon · yn / gadarn :
fe / ganaf · a / rhoi – / mawl.
8Deffro, fy enaid · deffro di / nabl a / thelyn :
fe dde/ffroaf · ar / doriad / gwawr.
9Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, y/mysg y / bobloedd :
a chanmolaf / di y/mysg · y cen/hedloedd,
10Oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn / hyd y / nefoedd :
a’th wi/rionedd / hyd · y cy/mylau. ‡
11Ymddyrchafa’n uwch na’r / nefoedd · O / Dduw :
a bydded dy ogoniant / dros yr / holl – / ddaear.

Currently Selected:

Salm 57: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in