Bible App logo
Search Icon

Salm 56

56
1Bydd drugarog / wrthyf · O / Dduw :
oherwydd y mae pobl yn gwasgu arnaf · ac ymosodwyr yn fy ngor/thrymu / drwy’r – / dydd;
2Y mae fy ngelynion yn gwasgu / arnaf · drwy’r / dydd :
a llawer yw’r / rhai sy’n / ymladd · yn / f’erbyn.
3Cod fi i fyny yn / nydd fy / ofn :
yr wyf yn ym/ddiried / ynot / ti.
4Yn Nuw, yr un y molaf ei air · yn Nuw yr wyf yn ym/ddiried · heb / ofni :
beth a all / pobl ei / wneud i/mi?
5Trwy’r dydd y maent yn ys/tumio · fy / ngeiriau :
ac y mae eu / holl fwr/iadau · i’m / drygu.
6Ymgasglant at ei / gilydd · a / llechu :
ac y / maent · yn / gwylio · fy / nghamre.
7‡ Fel y disgwyliant am fy mywyd · tâl iddynt / am eu / trosedd :
yn dy ddig, O / Dduw, da/rostwng / bobloedd.
8Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau · ac wedi cos/trelu · fy / nagrau :
onid / ydynt / yn dy / lyfr?
9Yna troir fy ngelynion yn eu hôl yn y dydd y / galwaf / arnat :
hyn a / wn fod / Duw o’m / tu.
10Yn Nuw, yr un y / molaf · ei / air :
yn yr / Arglwydd · y / molaf · ei / air,
11Yn Nuw yr wyf yn ym/ddiried · heb / ofni :
beth a all / pobl ei / wneud – / imi?
12Gwneuthum addunedau i / ti, O / Dduw :
fe’u talaf i / ti · ag off/rymau / diolch.
13Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau · a’m camau, yn / wir, rhag / llithro :
er mwyn imi rodio gerbron / Duw · yng ngo/leuni’r / bywyd.

Currently Selected:

Salm 56: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in