Bible App logo
Search Icon

Salm 55

55
1Gwrando, O Dduw / ar fy / ngweddi :
paid ag ym/guddio / rhag · fy nei/syfiad.
2Gwrando arnaf ac / ateb / fi :
yr wyf wedi fy / llethu / gan fy / nghwyn.
3aYr wyf bron â drysu gan / sŵn y / gelyn :
gan groch/lefain / y dryg/ionus;
3bOherwydd pentyrrant ddryg/ioni / arnaf :
ac ymosod / arnaf / yn eu / llid.
4Y mae fy / nghalon · mewn / gwewyr :
a daeth ofn / angau / ar fy / ngwarthaf.
5Daeth arnaf / ofn ac / arswyd :
ac fe’m / meddi/annwyd · gan / ddychryn.
6A dywedais, “O na fyddai gennyf a/denydd · co/lomen :
imi gael ehedeg / ymaith / a gor/ffwyso!
7Yna byddwn yn / crwydro · ym/hell :
ac yn / aros / yn · yr an/ialwch;
8Brysiwn / i gael / cysgod :
rhag y / gwynt – / stormus · a’r / dymestl.”
9O Dduw, cymysga a / rhanna’u / hiaith :
oherwydd gwelais drais a / chynnen / yn y / ddinas;
10Ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu / ar y / muriau :
ac y mae drygioni / a thry/bini o’i / mewn,
11Dinistr / yn ei / chanol :
ac nid yw twyll a gorthrwm yn ym/adael / o’i march/nadfa.
12Ond nid gelyn a’m gwawdiodd · gallwn / oddef / hynny :
nid un o’m caseion a’m bychanodd · gallwn / guddio / rhag – / hwnnw;
13Ond / ti, fy / nghydradd :
fy nghy/dymaith / fy nghyd/nabod,
14‡ Buom mewn cyfeillach / felys · â’n / gilydd :
wrth gerdded gyda’r / dyrfa / yn nhŷ / Dduw.
15Doed mar/wolaeth / arnynt :
bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol · am fod drygioni’n car/trefu / yn eu / mysg.
16Ond gwaeddaf / fi ar / Dduw :
a bydd yr / Arglwydd / yn fy / achub.
17Hwyr a bore a chanol dydd fe / gwynaf a / griddfan :
a / chlyw – / ef fy / llais.
18Gwareda fy mywyd yn ddiogel o’r rhyfel / yr wyf / ynddo :
oherwydd / y mae / llawer i’m / herbyn.
19Gwrendy Duw a’u darostwng · y mae ef wedi ei or/seddu · er/ioed :
am na fynnant / newid · nac / ofni / Duw.
20Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn / ei gy/feillion :
a / thorrodd / ei gy/famod.
21aYr oedd ei leferydd yn es/mwythach · na / menyn :
ond yr oedd / rhyfel / yn ei / galon;
21b‡ Yr oedd ei eiriau’n / llyfnach · nag / olew :
ond yr / oeddent · yn / gleddyfau / noeth.
22Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac fe’th / gynnal / di :
ni ad i’r cyfiawn / gael ei / ysgwyd / byth.
23aTi, O Dduw, a’u bwria / i’r pwll / isaf :
rhai / gwaedlyd / a thwy/llodrus,
23b‡ Ni chânt fyw / hanner · eu / dyddiau :
ond ymddi/riedaf · fi / ynot / ti.

Currently Selected:

Salm 55: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in