Salm 49
49
1Clywch hyn, yr / holl – / bobloedd :
gwrandewch / holl dri/golion / byd :
2Yn / wreng a / bonedd :
yn gy/foethog / a – / thlawd.
3Llefara fy / ngenau · ddoe/thineb :
a bydd myfyrdod fy / nghalon / yn dde/allus.
4Gogwyddaf fy nghlust / at ddi/hareb :
a datgelaf fy ny/chymyg / â’r – / delyn.
5Pam yr ofnaf yn / nyddiau / adfyd :
pan yw drygioni / fy ni/sodlwyr · o’m / cwmpas,
6Rhai sy’n ymddiried / yn eu / golud :
ac yn ymffrostio / yn ni/gonedd · eu / cyfoeth?
7Yn wir, ni all neb ei wa/redu · ei / hun :
na / thalu / iawn i / Dduw.
8Oherwydd rhy uchel yw / pris ei / fywyd :
ac / ni all / byth ei / gyrraedd,
9Iddo gael / byw am / byth :
a / pheidio · â / gweld Pwll / Distryw.
10Ond gwêl fod y doethion yn marw · fod yr ynfyd a’r / dwl yn / trengi :
ac yn / gadael · eu / cyfoeth · i / eraill.
11Eu bedd yw eu cartref bythol · eu trigfan dros y / cened/laethau :
er iddynt / gael – / tiroedd · i’w / henwau.
12Ni all neb / aros · mewn / rhwysg :
y mae fel yr ani/feiliaid / sy’n – / darfod.
13Dyma yw / tynged · yr / ynfyd :
a diwedd y rhai sy’n / cymer·a/dwyo · eu / geiriau.
14aFel defaid y tynghedir / hwy i / Sheol :
angau / fydd yn / eu bu/geilio;
14bDisgynnant yn / syth i’r / bedd :
a bydd eu ffurf yn darfod · / Sheol / fydd eu / cartref.
15Ond bydd Duw’n gwa/redu · fy / mywyd :
ac yn fy / nghymryd · o / afael / Sheol.
16Paid ag ofni pan ddaw rhywun / yn gy/foethog :
a phan gy/nydda / golud · ei / dŷ,
17Oherwydd ni chymer ddim / pan fo’n / marw :
ac nid â ei / gyfoeth · i / lawr i’w / ganlyn.
18Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei / hun yn / ddedwydd :
a bod pobl yn ei ganmol / am · iddo / wneud yn / dda,
19Fe â at genhedlaeth / ei hy/nafiaid :
ac ni / wêl o/leuni · byth / mwy. ‡
20‡ Ni all neb / aros · mewn / rhwysg :
y mae / fel yr · ani/feiliaid · sy’n / darfod.
Currently Selected:
Salm 49: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009