YouVersion Logo
Search Icon

Salm 50

50
1Duw y duwiau, yr Arglwydd / a le/farodd :
galwodd y ddaear o / godiad / haul · hyd ei / fachlud.
2O Seion, berffaith / ei phryd/ferthwch :
y / lle–/wyrcha / Duw.
3Fe ddaw ein Duw, ac / ni fydd / ddistaw :
bydd tân yn ysu o’i flaen · a / thymestl / fawr o’i / gwmpas.
4Y mae’n galw ar y / nefoedd / uchod :
ac ar y ddaear, er / mwyn / barnu ei / bobl :
5“Casglwch ataf / fy ffydd/loniaid :
a wnaeth gy/famod · â / mi trwy / aberth.”
6Bydd y nefoedd yn cyhoeddi / ei gy/fiawnder :
oherwydd / Duw ei / hun sydd / farnwr.
7“Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf · dygaf dystiolaeth yn dy / erbyn · O / Israel :
myfi yw / Duw, dy / Dduw – / di.
8Ni cheryddaf di / am dy · a/berthau :
oherwydd y mae dy boethoffrymau’n / wastad / ger fy / mron.
9Ni chymeraf / fustach · o’th / dŷ :
na / bychod / geifr · o’th gor/lannau;
10Oherwydd eiddof fi holl fwyst/filod · y / goedwig :
a’r / gwartheg · ar / fil o / fryniau.
11Yr wyf yn adnabod holl / adar · yr / awyr :
ac eiddof fi / holl · grea/duriaid · y / maes.
12Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn / wrthyt / ti :
oherwydd eiddof fi’r / byd a’r / hyn sydd / ynddo.
13A fwytâf fi / gig eich / teirw :
neu yfed / gwaed eich / bychod / geifr?
14Rhowch i Dduw o/ffrymau / diolch :
a thalwch eich addu/nedau / i’r Go/ruchaf.
15‡ Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder / fe’th wa/redaf :
a / byddi’n · fy / anrhy/deddu.”
16Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw, · “Pa hawl sydd gennyt i / adrodd · fy / neddfau :
ac i gymryd fy nghy/famod / ar · dy we/fusau?
17Yr wyt yn ca/sáu dis/gyblaeth :
ac yn / bwrw · fy / ngeiriau · o’th / ôl.
18Os gweli leidr, fe / ei i’w / ganlyn :
a bwrw dy / goel · gyda / godi/nebwyr.
19Y mae dy enau’n ym/ollwng · i ddryg/ioni :
a’th / dafod · yn / nyddu / twyll.
20Yr wyt yn parhau i dystio yn / erbyn · dy / frawd :
ac yn en/llibio / mab dy / fam.
21Gwnaethost y pethau hyn · bûm / innau / ddistaw :
tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun · ond ceryddaf di a dwyn / achos · / yn dy / erbyn.
22Ystyriwch hyn, chwi sy’n ang/hofio / Duw :
rhag imi eich / darnio · heb / neb i / arbed.
23Y sawl sy’n cyflwyno offrymau diolch sy’n fy / anrhy/deddu :
ac i’r sawl sy’n dilyn fy ffordd y dangosaf / iachaw/dwriaeth / Duw.”

Currently Selected:

Salm 50: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in