Salm 48
48
1Mawr yw’r Arglwydd a theilwng / iawn o / fawl :
yn ninas ein / Duw ei / fynydd / sanctaidd.
2Teg o uchder · llawenydd yr holl ddaear, yw / Mynydd / Seion :
ar lechweddau’r Gogledd / dinas · y / Brenin / Mawr.
3‡ Oddi / mewn i’w / cheyrydd :
y mae Duw wedi ei ddangos ei / hun / yn amddi/ffynfa.
4Wele’r brenhinoedd / wedi · ym/gynnull :
ac wedi / dyfod / at ei / gilydd;
5Ond pan / welsant · fe’u / synnwyd :
fe’u brawychwyd nes / peri / iddynt / ffoi;
6Daeth dychryn / arnynt / yno :
a / gwewyr · fel / gwraig yn / esgor,
7Fel pan fo / gwynt y / dwyrain :
yn / dryllio / llongau / Tarsis.
8Fel y clywsom · felly hefyd y gwelsom yn ninas / Arglwydd · y / Lluoedd :
yn ninas ein Duw ni a gyn/helir · gan / Dduw am / byth.
9O Dduw, yr ydym wedi / portre/adu :
dy ffydd/londeb · yng / nghanol · dy / deml.
10Fel y mae dy enw, O Dduw · felly y mae dy fawl yn ymestyn hyd der/fynau’r / ddaear :
y mae dy dde/heulaw’n / llawn · o gy/fiawnder;
11Bydded i Fynydd Seion / lawen/hau :
bydded i drefi Jwda orfoleddu o/herwydd · dy / farne·di/gaethau.
12Ymdeithiwch o / gwmpas · Je/rwsalem :
ewch o’i / hamgylch / rhifwch · ei / thyrau,
13Sylwch ar ei magwyrydd · ewch / trwy ei / chaerau :
fel y galloch / ddweud · wrth yr / oes sy’n / codi,
14‡ “Dyma Dduw · Y mae ein Duw ni / hyd byth / bythoedd :
fe’n / harwain / yn dra/gywydd.”
Currently Selected:
Salm 48: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009