YouVersion Logo
Search Icon

Salm 38

38
1Arglwydd, na cherydda fi / yn dy / lid :
ac na / chosba / fi · yn dy / ddig.
2Suddodd dy / saethau / ynof :
y mae dy / law yn / drwm – / arnaf.
3Nid oes rhan o’m cnawd yn gyfan gan / dy ddic/llonedd :
nid oes iechyd yn fy / esgyrn · o/herwydd · fy / mhechod.
4Aeth fy nghamweddau / dros fy / mhen :
y maent yn faich rhy / drwm – / imi · ei / gynnal.
5Aeth fy / mriwiau’n / ffiaidd :
a chrawni o/herwydd / fy ffo/lineb.
6Yr wyf wedi fy mhlygu a’m da/rostwng · yn / llwyr :
ac yn mynd o amgylch yn ga/laru / drwy’r – / dydd.
7Y mae fy llwynau’n / llosgi · gan / dwymyn :
ac nid oes / iechyd / yn fy / nghnawd.
8Yr wyf wedi fy mharlysu a’m / llethu’n / llwyr :
ac yn gweiddi o/herwydd / griddfan · fy / nghalon.
9O Arglwydd, y mae fy nyhead yn / amlwg · i / ti :
ac nid yw fy ochenaid yn gudd/iedig / oddi / wrthyt.
10Y mae fy nghalon yn curo’n gyflym, fy / nerth yn / pallu :
a’r golau yn fy llygaid / hefyd / wedi / mynd.
11Cilia fy nghyfeillion a’m cymdogion / rhag fy / mhla :
ac y mae fy mherth/nasau’n / cadw / draw.
12Y mae’r rhai sydd am fy einioes wedi / gosod / maglau :
a’r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistr · ac yn myfyrio am ddi/chellion / drwy’r – / dydd.
13Ond yr wyf fi fel un byddar, heb / fod yn / clywed :
ac fel mudan, heb / fod yn / agor · ei / enau.
14Bûm fel un heb / fod yn / clywed :
a / heb – / ddadl o’i / enau.
15Ond amdanat ti, O Arglwydd / y dis/gwyliais :
ti sydd i / ateb · O / Arglwydd · fy / Nuw.
16Oherwydd dywedais, “Na fydded lla/wenydd · o’m / plegid :
i’r rhai sy’n ym/ffrostio · pan / lithra · fy / nhroed.”
17Yn wir, yr wyf ar / fedr – / syrthio :
ac y mae fy mhoen / gyda / mi bob / amser.
18Yr wyf yn cy/ffesu · fy / nghamwedd :
ac yn pry/deru / am fy / mhechod.
19Cryf yw’r rhai sy’n elynion / imi · heb / achos :
a llawer yw’r rhai / sy’n · fy ngha/sáu ar / gam,
20Yn talu imi / ddrwg am / dda :
ac yn fy ngwrthwynebu am fy / mod yn / dilyn · dai/oni.
21Paid â’m / gadael · O / Arglwydd :
paid â mynd yn bell oddi / wrthyf / O fy / Nuw.
22Brysia i’m / cynor/thwyo :
O / Arglwydd · fy / iachaw/dwriaeth.

Currently Selected:

Salm 38: SPBCND

Highlight

Copy

Compare

Share

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in