Salm 39
39
1Dywedais, “Gwyliaf fy ffyrdd, rhag imi / bechu â’m / tafod :
rhof ffrwyn ar fy ngenau pan / fo’r dryg/ionus · yn / f’ymyl.”
2Bûm yn fud a distaw / cedwais · yn / dawel :
ond i ddim / diben · gwae/thygodd · fy / mhoen,
3Llosgodd fy / nghalon · o’m / mewn :
wrth imi fyfyrio · cyneuodd tân a / thorrais / allan i / ddweud,
4“Arglwydd, pâr imi / wybod · fy / niwedd :
a beth yw nifer fy nyddiau · dangos i/mi mor / feidrol / ydwyf.
5Wele, yr wyt wedi gwneud fy / nyddiau fel / dyrnfedd :
ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg · yn wir, chwa o / wynt yw / pob un / byw.
6Ac y mae’n mynd a / dod fel / cysgod :
yn wir, ofer yw’r holl gyfoeth a bentyrra · ac ni ŵyr / pwy fydd / yn ei / gasglu.
7Ac yn awr, Arglwydd, am / beth · y dis/gwyliaf :
Y mae fy / ngobaith / ynot / ti.
8Gwared fi o’m / holl dros/eddau :
paid â’m / gwneud yn / wawd i’r / ynfyd.
9Bûm yn fud, ac nid a/goraf · fy / ngheg :
oherwydd ti sydd / wedi / gwneud – / hyn.
10Tro ymaith dy bla / oddi / wrthyf :
yr wyf yn / darfod · gan / drawiad · dy / law.
11Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni · yr wyt yn dinistrio’i o/goniant · fel / gwyfyn :
yn wir / chwa o / wynt yw / pawb.
12aGwrando fy ngweddi, O Arglwydd · a rho / glust i’m / cri :
paid â / diys/tyru fy / nagrau.
12bOherwydd ymdeithydd / gyda · thi / ydwyf :
a phererin / fel fy / holl hyn/afiaid.
13Tro draw oddi wrthyf, rho / imi la/wenydd :
cyn imi fynd / ymaith · a / darfod · yn / llwyr.”
Currently Selected:
Salm 39: SPBCND
Highlight
Copy
Compare
Share
Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in
Salmau Pwyntiedig (BCND) o lyfr Gweddi Ddyddiol gan Gwin ap Gwilym © yr Eglwys yng Nghymru 2009
Pointed Psalms (BCND) from the Book of Daily Prayer by Gwin ap Gwilym © the Church in Wales 2009